Professor Angharad Davies

Brwydro’r "superbugs" - defnyddio ymchwil i achub dynoliaeth

Ym mhennod ddiweddaraf ein podlediad Ble fydden ni heb ymchwil? mae Angharad Davies yn sgwrsio gyda’r cyflwynydd Dot am sut mae ymchwilwyr yn gweithio’n galed i frwydro yn erbyn bacteria sy’n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau. Gwrandewch nawr o ble bynnag yr ydych chi’n cael eich podlediadau.

Ers eu darganfod bron i 100 mlynedd yn ôl, mae gwrthfiotigau wedi trawsnewid meddygaeth. Hebddyn nhw, byddai mân anafiadau a heintiau yn gallu achosi marwolaeth, ac ni fyddai llawdriniaeth sy’n achub bywyd yn bosibl.

Erbyn hyn, mae rhai bacteria yn datblygu i allu gwrthsefyll gwrthfiotigau, sy’n golygu na fyddant o bosibl yn gweithio bellach i drin heintiau cyffredin.

Mae gwyddonwyr a meddygon yn defnyddio ymchwil hanfodol i ddod o hyd i driniaethau newydd ar gyfer heintiau yn y frwydr yn erbyn y "superbugs" hyn.

Darganfod gwrthfiotigau

Dywedodd Arweinydd Arbenigedd Heintiau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Angharad Davies, a gafodd ei hysbrydoli i fynd i faes meddygaeth yn 15 oed ar ôl darllen llyfr am brosiectau Sefydliad Iechyd y Byd: "Yn ôl yn 1928, gwelodd Alexander Fleming fod llwydni wedi tyfu mewn dysgl Petri yr oedd yn ei defnyddio i dyfu bacteria. Sylwodd fod y llwydni yn cynhyrchu rhywbeth a oedd yn atal y bacteria rhag tyfu.

"Ar ôl mwy o ymchwil, gwnaeth Fleming darganfod bod y ‘sudd llwydni’ hwn yn effeithiol yn erbyn amrywiaeth o facteria, ac o’r astudiaeth gynnar hon ganwyd y gwrthfiotig cyntaf, penisilin. Erbyn hyn, yr amcangyfrif yw bod gwrthfiotigau wedi arbed tua 200 miliwn o fywydau ledled y byd.

"Mae gen i adroddiad o bapur newydd o 1899, cyn i Fleming ddarganfod penisilin, yn sôn am ddyn ddaru gael cwt bychan bach o lafn o laswellt ar ei droed. Cafodd ei heintio a bu’n rhaid i feddygon dorri ei droed i achub ei fywyd.

"Ni fyddem ni’n disgwyl i hynny ddigwydd nawr, mae gwrthfiotigau wir wedi chwyldroi’r ffordd yr ydym ni’n gofalu am gleifion."

“Superbugs” newydd

“Un o’r prif heriau sy’n wynebu gofal iechyd heddiw yw bacteria sy’n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau.

"Bob tro yr ydym ni’n darganfod gwrthfiotig newydd, o fewn ychydig flynyddoedd mae bacteria yn esblygu i’w wrthsefyll. Mae’r gwrthfiotigau sydd gennym ni ar gyfer rhai mathau o facteria bron wedi dod i ben. Ers blynyddoedd rydym ni hefyd wedi bod mewn sefyllfa lle mae pobl wedi meddwl ‘wnawn ni ddefnyddio gwrthfiotigau rhag ofn’ oherwydd ychydig iawn o sgil-effeithiau sydd iddyn nhw, ond mae hynny’n arwain at orddefnyddio a datblygu ymwrthedd.

"Mae hon yn broblem enfawr sy’n bygwth mynd â ni’n ôl i’r adeg pan allai briw bach ar eich troed fod yn hynod o beryglus.

"Mae ymchwilwyr yn gweithio’n galed i geisio dod o hyd i ffyrdd newydd o drin heintiau a ffyrdd o ddefnyddio llai o wrthfiotigau."

Triniaeth twbercwlosis

"Un haint bacteriol sydd wedi dod yn broblem fawr o ran ymwrthedd i wrthfiotigau yw twbercwlosis sy’n gwrthsefyll cyffuriau (TB), haint peryglus iawn.

"Dyna pam y dewisais i ganolbwyntio fy ymchwil cynnar ar edrych ar wahanol ffyrdd o ymdrin ag ymwrthedd i wrthfiotigau yn TB.

"Gall y bacteria sy’n achosi TB aros yn segur yn y corff am flynyddoedd cyn ‘deffro’ ac achosi clefyd. Pan eu bod yn segur mae’n anoddach i driniaeth weithio.

"Canolbwyntiodd fy ymchwil ar ffyrdd o wneud y bacteria segur hyn yn haws i’w trin a’u lladd, drwy eu gwneud yn weithredol eto, neu eu deffro yn y labordy."

Dyfodol heintiau

Un datblygiad mawr mewn ymchwil bacteriol yn ddiweddar yw’r gallu i gael dilyniant DNA  neu god genetig cyfan, y bacteria. Mae hyn yn golygu y gallwn ni ddeall yn llawer gwell pa newidiadau i’r DNA sy’n helpu bacteria i wrthsefyll gwrthfiotigau.

"Bydd hyn yn ei gwneud hi’n llawer haws ac yn gyflymach i feddygon wybod a yw defnyddio gwrthfiotigau penodol yn mynd i fod yn effeithiol i’w claf. Hyd yn hyn, fel arfer mae hi wedi cymryd ychydig ddyddiau i gael y canlyniad hwnnw, ond mae hynny eisoes yn dechrau newid diolch i’r dechnoleg newydd hon.

"Mae gwyddonwyr hefyd yn chwilio am ffyrdd eraill o drin heintiau. Er enghraifft, mae ymchwilwyr yn ystyried defnyddio feirysau sy’n heintio bacteria, o’r enw phages, i ladd y bacteria. Yna fyddem ni ddim mor ddibynnol ar wrthfiotigau yn unig.

"Mae hwn yn faes cyffrous iawn mewn ymchwil sy’n hynod bwysig ar gyfer dyfodol meddygaeth."