Brittany Nocivelli

“Rydw'i eisiau i breswylwyr cartrefi gofal gael llais mewn ymchwil”

Mae gwyddonwyr, ymchwilwyr, meddygon, nyrsys, clinigwyr a gweithwyr gofal dawnus ledled Cymru’n rhoi o’u hamser a’u hymdrech i ddatblygu meddyginiaethau sy’n torri tir newydd ac i ofalu amdanon ni.

Ar ol bod yn gweithio mewn cartref gofal, roedd Brittany Nocivelli – sydd yn 24 oed – wedi ei  hysbrydoli i hyrwyddo cyfraniad preswylwyr cartrefi gofal i waith ymchwil.

Teitl prosiect PhD Brittany ym Mhrifysgol Caerdydd, yw: “Cynnwys preswylwyr cartrefi gofal mewn ymchwil: adnabod y rhwystrau a'r cymorth a datblygu ymyrraeth fydd yn helpu preswylwyr i lunio penderfyniadau, a blaen gynllunio gofal mewn ymchwil (astudiaeth  EN-GAGE)”.

Mae'r astudiaeth yn golygu adnabod y rhwystrau ac hefyd y cymorth i breswylwyr cartrefi gofal gymryd rhan mewn ymchwil, a datblygu ymyrraeth cyfathrebu fydd o help wrth lunio penderfyniadau a blaen gynllunio gofal mewn ymchwil.

Mae hi yn un o 3 o fyfyrwyr PhD a ariennir gan Gynllun Myfyrwyr PhD Gofal Cymdeithasol Ymchwil Iechyd a Gofal  Cymru  22020/2021020/21

Deall ym mhle y gellir gwneud gwahaniaeth

“Wedi cwblhau cyrsiau gradd a Meistri mewn seicoleg roeddwn yn gwybod mai  ymchwil  oedd y llwybr iawn i mi felly penderfynais fynd am  radd  PhD.  Rwyf bob amser wedi  mwynhau dysgu a bod mewn amgylchedd academaidd  ac roedd ymchwil  i'w weld yn barhâd ardderchog o hynny. 

“Roeddwn  eisiau cael ychydig o brofiad er mwyn canfod beth yn union fyddai fy hoff bwnc, felly fe gymerais swydd ym maes iechyd meddwl oedolion hȳn mewn uned breswyl a chartref gofal. Fe wnaeth fy mhrofiadau yno amlygu i mi yr holl bethau oedd ar goll mewn gofal cymdeithasol oedolion, ac ym mhle'r oedd angen gwneud gwahaniaeth.

“Er enghraifft, fe sylwais y gallai aelodau staff gyfathrebu'n haws gyda chleifion pe byddai ganddynt fwy o amser. Gall cyfyngiadau amser a phwysau gwaith olygu bod cyfleoedd i gleifion gael mynegi eu dymuniadau yn aml yn cael eu colli. ”

Adnoddau ar gyfer preswylwyr a staff

“Fe ddois ar draws y PhD yma ac roedd yr union beth oeddwn yn ei weld yn broblem mewn cartrefi gofal. Mae gofal ac ymarfer ar sail tystiolaeth yn bwysig iawn i mi, a bydd y PhD hwn yn archwilio'r rhwystrau y mae preswylwyr yn eu hwynebu wrth gymryd rhan mewn ymchwil.

“Rydym yn gobeithio datblygu dulliau ymyrraeth i'w helpu i gymryd rhan yn fwy helaeth, byddai hyn yn gam cyntaf ardderchog tuag at wella nifer o feysydd mewn gofal cymdeithasol. Mae hyn yn debygol o fod yn adnodd ar gyfer preswylwyr, ac yn adnodd hyffordiant i staff cartrefi gofal gan gynyddu eu gwybodaeth a'u hymwybyddiaeth am eu rôl yn cefnogi preswylwyr i gael mynediad at gyfleoedd ymchwil.”

Adeiladu sail tystiolaeth gadarn

“Dyma'r tro cyntaf i'r ymchwil hwn gael ei gynnal, felly fe fyddwn yn rhoi llais i breswylwyr ac hefyd gyfleoedd iddynt fod yn rhan o ymchwil fydd yn gwneud gwahaniaeth i'w gofal. Gan breswylwyr cartrefi gofal yn aml y mae'r anghenion mwyaf cymhleth ond ychydig iawn o sylw sydd i hyn mewn ymchwil gan  arwain at ddiffyg sail tystiolaeth ar gyfer eu gofal.

“Trwy wella cyfranogiad preswylwyr, rydym yn gobeithio hyrwyddo pob math o ymchwil gofal cymdeithasol yn ymwneud â gofal cymdeithasol perthynol i bobl hŷn a chartrefi gofal. Fy ngobaith yw y bydd ein teclyn cyfathrebu yn hyrwyddo cyfraniad preswylwyr i ymchwil ac o ganlyniad yn cynrychioli  poblogaeth sydd hyd yma wedi bod heb lais, fel y gall canfyddiadau ymchwil fod o fudd i ofal y bobl hyn yn yn dyfodol.”


Mae Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil PhD Gofal Cymdeithasol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ariannu unigolion talentog i ymgymryd ag ymchwil ac astudiaethau fydd yn arwain at PhD yng Nghymru. 

Mae'r cynllun yn cefnogi ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol trwy ariannu prosiectau ymchwil ansawdd uchel, darparu tystiolaeth gadarn sydd yn mynd i'r afael ag anghenion gofal cymdeithasol defnyddwyr, gofalwyr a'r boblogaeth ehangach, ac yn trefnu a darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol efeithlon yng Nghymru.

Dysgwch fwy am y bobl y tu ôl i'r ymchwil a sut mae ymchwil Cymru wedi newid bywydau.

I gael y newyddion ymchwil diweddaraf yng Nghymru yn syth i'ch mewnflwch, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol.