Nid dim ond llyfrau a chotiau labordy sydd dan sylw; mae nyrsys ymchwil yn ailddiffinio'r dull o gymryd rhan mewn ymchwil iechyd meddwl.
22 Mai
Mae Emily Barnacle a Rhian Gray, Nyrsys Ymchwil Clinigol Iechyd Meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn angerddol dros wneud gwahaniaeth i fywydau a llesiant meddwl pobl. Roeddent yn awyddus i rannu eu stori ymchwil ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Treialon Clinigol eleni ddydd Sadwrn 20 Mai.
A hwythau’n nyrsys ymchwil clinigol iechyd meddwl, maent yn cefnogi cyfranogwyr â chyflyrau iechyd meddwl cymhleth sy'n cael triniaeth neu ymyrraeth fel rhan o dreial clinigol. Mae cwmpas y cyflyrau iechyd meddwl a gwmpesir gan eu hymchwil yn amrywio o seiciatreg henaint, fel dementia a chlefyd Alzheimer, i seicosis, gorbryder ac iselder.
Mae nyrsys ymchwil yn hanfodol i addysgu'r gymuned a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ymchwil iechyd meddwl. Eu nod yw pwysleisio sut y gall cyflyrau iechyd meddwl effeithio ar bawb.
Dywedodd Emily: “Cefais fy hyfforddi yn wreiddiol fel nyrs bediatrig ac enillais gymhwyster yn 2021, ond rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mewn llywio gofal iechyd meddwl. Pan welais i’r cyfle i ddod yn nyrs ymchwil glinigol iechyd meddwl, newidiais gyfeiriad ac rydw i wrth fy modd."
Dywedodd Rhian: "Bûm yn gweithio fel nyrs iechyd meddwl ar y wardiau am 20 mlynedd. Yn anffodus, gwelais yr un triniaethau a phrosesau’n cael eu defnyddio dro ar ôl tro, ac ychydig o gynnydd a wnaed ym maes iechyd meddwl. Datblygais angerdd dros newid, a phan gododd y cyfle hwn am swydd, es i amdani."
Mae ail-lunio treialon clinigol iechyd meddwl yn dreialon ymweliadau cartref cymunedol mor bwysig i gwmpas ehangach ymchwil iechyd meddwl Cymru.
Mae Emily a Rhian yn ymdrechu i sefydlu awyrgylch gofalgar, llawn dealltwriaeth a gwybodaeth i gryfhau treialon clinigol ym maes iechyd meddwl ac yn annog y dull hwn ar draws pob maes ymchwil. Maent yn ymwneud yn uniongyrchol â'r broses dreialu o'r dechrau i'r diwedd, gan weithio gyda gweithwyr proffesiynol amrywiol i gydlynu'r broses o sefydlu, cyflwyno a chau astudiaethau yn llwyddiannus.
Dywedodd Emily: “Mae treialon ein hadran ymchwil yn defnyddio dull ansafonol gan eu bod yn seiliedig ar ymweliadau cartref. Mae'r bobl sy'n cymryd rhan yn ein hastudiaethau yn aml yn profi ffyrdd anhrefnus o fyw; mae'n annhebygol y byddent yn gallu cymryd rhan mewn treial pe bai'n golygu bod yn rhaid iddynt ddod i glinig neu adran ymchwil benodol. Felly, rydym yn mynd â'r ymchwil atyn nhw. Rydym yn cynnal ymweliadau cartref wedi'u trefnu ymlaen llaw, neu'n mynd allan am goffi a chacen am sgwrs.
Ychwanegodd Rhian: “Nid yw ein dull asesu yn debyg i ymholiad ffurfiol dros ddesg. Rydym yn gofyn yr holl gwestiynau angenrheidiol, ond mewn modd sgyrsiol, ac rydym yn anelu at gynnal ymchwil mewn modd sy’n casglu data yn effeithlon ac o fewn ffiniau priodol.
Dywedodd Rhian: “Rydym yn falch o'r gwaith rydym yn ei wneud. Rydym yn credu’n gryf mewn cymryd agwedd dosturiol at feithrin cydberthynas gref â chyfranogwyr.
Mae ein dull yn llai clinigol ac yn ymwneud yn fwy â dysgu pwy ydych chi fel person. Rydym ni eisiau dod i'ch adnabod chi a gweld a allwn ni wneud unrhyw beth i helpu. Mae'r dull hwn yn ein galluogi i ffurfio cydberthynas dda gyda'n cyfranogwyr i sefydlu ymddiriedaeth a gonestrwydd sydd wedi arwain at ganlyniadau presenoldeb cyffredinol uchel drwy gydol y treialon."
Dywedodd Rhian: “Byddwn yn argymell cymryd rhan mewn ymchwil i bawb. Gall fod yn brofiad difyr ac yn rhywbeth y gallant edrych yn ôl arno a bod yn falch o wybod eu bod wedi helpu i newid pethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”
Ble fydden ni heb ymchwil?
Cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr Ymchwil Heddiw i ddysgu sut y gallwch helpu neu gymryd rhan mewn ymchwil.
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ariannu’r broses o gyflawni ymchwil ar draws holl sefydliadau’r GIG yng Nghymru.