Tabitha Rees

Nyrs oedd ddim yn mwynhau gwyddoniaeth yn yr ysgol yn siarad am garu ymchwil

Mae Nyrs Ymchwil o Abertawe, Tabitha Rees, 30 oed, wedi gweithio ar rai o’r astudiaethau ymchwil COVID-19 mwyaf i’w cyflenwi yng Nghymru. Ond er bod ei diwrnod nawr yn galw am gasglu a dadansoddi data, doedd hi ddim yn hoffi gwyddoniaeth a mathemateg yn yr ysgol.

Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, mae Tabitha yn annog merched i feddwl yn wahanol ynglŷn â sut beth ydy gyrfa ym maes gwyddoniaeth.

“Roedd hi’n gas gen i wyddoniaeth pan roeddwn i yn yr ysgol. Doeddwn i ddim yn mwynhau’r pwnc a doeddwn i ddim yn meddwl ei fod yn berthnasol. Dwi’n cofio edrych ar gelloedd winwnsyn o dan y microsgop, yn gwneud hafaliad hir neu’n arbrofi â llosgwr Bunsen ac yn meddwl, pryd fydd yna alw i mi wneud hyn eto? Dyna i gyd oeddwn i’n meddwl oedd gwyddoniaeth ac felly fuaswn i erioed wedi dychmygu y buaswn i un diwrnod yn gweithio ym maes ymchwil ac wrth fy modd!

“Seicoleg oedd fy mhorth i i wyddoniaeth. Dwi wedi bod yn dioddef o iselder ers roeddwn i’n 14 oed ac felly mae iechyd meddwl wedi bod yn ffocws mawr i mi. Gwnaeth y gefnogaeth a gefais gan seicolegwyr y GIG pan roeddwn i yn f’arddegau fy helpu’n fawr iawn a gwnaeth i mi fod eisiau helpu eraill fel fi, felly dewisais astudio seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Roeddwn i’n gwybod y byddai’n rhaid i mi gasglu a dadansoddi data ar gyfer fy nhraethawd estynedig ac roedd yn ddigon i godi arswyd arna’ i. Er mwyn dysgu mwy, gwnes i ymgeisio am interniaeth yr haf hwnnw yn gweithio gydag Ysgol Pensaernïaeth Cymru ar brosiect wedi’i ariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) a oedd yn edrych ar fuddion iechyd yn sgil rhaglen tai newydd yn Sir Gâr. Newidiodd hyn fy syniad o sut beth fyddai gweithio ym maes ymchwil. Gwelais sut mae’n bosibl rhoi gwyddoniaeth ar waith yn hytrach na bod dim mwy na rhywbeth y darllenais i amdano mewn gwerslyfrau. Dechreuais i ddeall sut y mae astudiaethau’n cynnwys pobl ac yn newid bywydau.”

Daeth Tabitha yn nyrs ymchwil yn Ysbyty Singleton gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ym mis Hydref 2019. Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sy’n ariannu’r swydd hon.

Aeth Tabitha ymlaen i ddweud: “Mae bod yn nyrs ymchwil yn gymysgedd perffaith o weithio gyda phobl a data. Fy rôl i ydy bod yn eiriolwr dros y claf ac esbonio astudiaethau’n glir fel eu bod nhw’n deall sut gallai cymryd rhan eu helpu nhw ac eraill yn y dyfodol. Dechreuais yn y swydd ychydig cyn i’r pandemig ddechrau ac felly dwi wedi gweithio ar ymchwil COVID-19, gan gynnwys treial RECOVERY ac astudiaeth GenOMICC. Dwi nawr yn gweithio ar astudiaeth PHOSP-COVID sy’n edrych ar ddeilliannau iechyd tymor hir i’r rheini fu yn yr ysbyty â COVID-19.

“Dwi wrth fy modd yn bod yn nyrs ymchwil a dwi’n gobeithio y bydd merched eraill yn ystyried gweithio ym maes ymchwil. Mae fy marn ar wyddoniaeth wedi newid yn llwyr ers ysgol. Trwy nyrsio, dwi nawr yn gwybod fy mod i’n gallu defnyddio gwyddoniaeth i helpu eraill a gwneud gwelliannau sylweddol mewn gofal.

“Fy nghyngor i eraill fyddai, os mai gwyddoniaeth oedd eich pwnc lleiaf hoff yn yr ysgol, peidiwch â gadael i hynny eich atal rhag ei ystyried fel gyrfa. Un diwrnod, buaswn i wrth fy modd yn gwneud ychydig o addysgu ac annog cenhedlaeth newydd o nyrsys i ddod i faes ymchwil.”

Dysgwch fwy am y bobl y tu ôl i'r ymchwil a sut mae ymchwil Cymru wedi newid bywydau

I gael y newyddion ymchwil diweddaraf yng Nghymru yn syth i'ch mewnflwch, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol