Craig Greenstock

"Mae angen ymchwil arnom i ddysgu ar gyfer y dyfodol" – sut mae profiadau byw yn llunio astudiaethau

Yr Wythnos Gwirfoddolwyr hon (1-7 Mehefin) rydym yn dathlu'r bobl ledled Cymru sy'n defnyddio eu hamser  i helpu ymchwilwyr  i ddod o hyd i driniaethau a gofal gwell.

Mae meddyliau a syniadau'r rhai sydd wedi profi clefyd neu raglen gofal yn hanfodol i ddatblygiad ymchwil. Mae cael eu mewnbwn  i ddylunio astudiaethau  yn sicrhau bod ymchwil yn berthnasol  i anghenion a phryderon y cyhoedd.

Ar ôl mynd yn ddifrifol wael gyda COVID-19, mae Craig Greenstock, 61 oed  o Bontypridd, yn rhoi o'i amser i helpu i ddatblygu ymchwil sy'n ceisio cefnogi'r rhai sy'n profi trawma yn dilyn arhosiad mewn gofal dwys.

Effaith COVID-19

Ym mis Rhagfyr 2020, Daeth Craig adref o'i waith o fewn Cyllid y GIG gyda pheswch a phrawf COVID-19 positif, heb wybod am yr effaith y byddai'r clefyd yn ei gael ar ei fywyd cyn hir.

Meddai Craig: "Dirywiodd fy anadlu yn llwyr, roeddwn i'n chwydu, ac roedd fy nhymheredd drwy'r to. Cefais fy nerbyn i uned chwe gwely  a fi oedd yr unig un i ddod allan o hynny, sydd mor frawychus.

"Ar Ddydd San Steffan,  rhoddwyd fi mewn coma a ysgogwyd yn feddygol.  Dywedodd y meddygon onibai ein bod yn gwneud hyn, bydd eich calon yn rhoi'r gorau iddi. Oherwydd COVID, doedd fy ngwraig ddim yn gallu fy ngweld i.  Roedd yn ofnadwy iddi hi."

Ar ol cyfnod o fythefnos a hanner mewn gofal dwys, profodd  Craig syndrom gofal ôl-ddwys (PICS), sy'n gallu achosi symptomau fel pryder, anhwylder straen wedi trawma (PTSD) ac anhawster symud.

Parhaodd Craig: "Pan ddes i allan, roedd gen i PTSD a dychryn nos. Ro'n i'n meddwl mod i wedi marw unwaith, fy mod i'n gorwedd ar ewyn du, roedd popeth yn hollol ddu ac roedd cân yn chwarae yn dweud 'ti wedi marw, mae o wedi marw.'

"Roeddwn i'n meddwl fy mod i'n gyrru lorïau, yn gyrru awyrennau. Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn real a beth oedd ddim, am rywfaint ohono dwi dal ddim yn gwybod."

Gwneud gwahaniaeth drwy ymchwil

Yn dilyn y profiad hwn, roedd Craig eisiau "rhoi rhywbeth yn ôl" a phenderfynodd helpu ymchwilwyr i ddatblygu astudiaeth sy'n ceisio defnyddio clustffonau realiti rhithwir (VR) i gefnogi cleifion sy'n profi PICS yn eu hadferiad a'u hadsefydlu.

I gefnogi'r tîm astudio, mae Craig  yn cymryd rhan mewn cyfweliadau strwythuredig a grwpiau ffocws gyda chleifion eraill yn ogystal â phrofi'r app VR ymdrochol.

Dywedodd Craig, a fu'n gweithio yn y GIG am dros 40 mlynedd: "O ran dogfennau cleifion, mae'n ymwneud â chael y cyfrwng hapus hwnnw fel bod pobl yn gallu ei ddeall.  Rwyf am helpu i gyfrannu os oes unrhyw ddysgu a all ddod allan o fy mhrofiad i. Rwy'n gweithio gyda'r tîm ymchwil ac yn eu cefnogi fel y gallant fwrw ymlaen â hyn.

"Dyw feirws fel COVID-19 ddim yn gwahaniaethu a gall unrhyw un brofi PICS, felly mae angen ymchwil i ddysgu ar gyfer y dyfodol."

Mae'r astudiaeth, dan arweiniad Dr Ceri Lynch a dderbyniodd gyllid gan Gynllun Ymchwil ar gyfer Cleifion a Budd Cyhoeddus, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn cael ei chynnal  yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf.

Cyfleoedd i helpu gydag ymchwil

Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu ymchwilwyr i ddatblygu eu hastudiaethau, darganfyddwch fwy am ein cyfleoedd cyhoeddus trwy ymuno â'n Cymuned Ymglymiad neu ymuno â'n cylchlythyr.