Sut mae’r gymuned ymchwil yng Nghymru yn newid bywydau yn 2023
O ymdrin â COVID-19 i weithio ar ddiogelwch haul a llawer mwy, gwnaeth y gymuned ymchwil yng Nghymru rai pethau anhygoel yn 2022 – a bydd eleni union yr un fath. Ym mis Ionawr eleni, rhannodd cymuned ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru eu haddewidion ymchwil ar gyfer 2023 ac ni allwn aros i weld beth maent yn ei gyflawni:
Cefnogi teuluoedd yng Nghymru
Mae’n bwysig deall sut mae iechyd a llesiant y teulu yn effeithio ar ddyfodol ein plant, ac eleni mae’r Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Iechyd a Llesiant y Boblogaeth yn canolbwyntio ar ddarganfod sut i ddarparu'r cymorth gorau i deuluoedd yng Nghymru. Os ydych chi’n ddarpar riant neu os oes gennych chi blentyn rhwng 18 mis a dwy oed, helpwch nhw i gyrraedd eu nod drwy gymryd rhan mewn arolwg ar-lein.
Gwell iechyd y geg
Mae iechyd y geg gwael yn broblem gyffredin i bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal a llety gwarchod, ond yn 2023, nod Sefydliad Gogledd Cymru ar gyfer Hap-dreialon mewn Iechyd a Gofal yw mynd i’r afael â’r broblem hon gyda chymorth gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol, trwy’r astudiaeth SENIOR.
Prawf gwaed ar gyfer canser
Eleni, bydd Banc Canser Cymru a Chanolfan Ymchwil Canser Cymru yn ymchwilio i weld a allai prawf gwaed syml helpu meddygon i ddod o hyd i'r driniaeth orau i gleifion â chanser yr ysgyfaint. Dyfarnwyd ein grant Ymchwil er Budd Cleifion a Chyhoedd Cymru yn 2022 i Dr Magda Meissner, Ymgynghorydd Oncoleg Feddygol, am y gwaith hwn sydd â’r nod o gwtogi’r amser rhwng atgyfeirio a dechrau triniaeth i gleifion canser yr ysgyfaint.
Annog heneiddio’n iach
Yn 2023, nod y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia yw deall sut i ddatblygu amgylcheddau ar gyfer heneiddio sy'n cynnig mwy o fanteision iechyd a llesiant, tra'n cyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy yng Nghymru. Gan weithio gyda'r cyhoedd, pobl greadigol a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, bydd ymchwilwyr yn gofyn i bobl o wahanol oedrannau am eu barn ynghylch newid yn yr hinsawdd.
Meddyginiaeth newydd ar gyfer diabetes math 1
Yn 2023, cyhoeddir canlyniadau astudiaeth, a gynhaliwyd yn Uned Treialon Abertawe yn edrych i weld a all meddyginiaeth newydd ohirio niwed i'r pancreas mewn pbobl â diabetes math 1. Nod treial USTEKID yw ei gwneud hi'n haws i reoli diabetes yn y blynyddoedd cynnar yn dilyn diagnosis.
Gwella iechyd meddwl yn ein hysgolion
Mae gan un o bob wyth disgybl ysgol broblem iechyd meddwl, ac, eleni, nod Canolfan DECIPHer yw helpu ysgolion i fynd i’r afael â hyn drwy arfarnu effeithiolrwydd y dull ysgol-gyfan. Mae'r dull hwn yn hyrwyddo negeseuon cyson a chefnogaeth i iechyd meddwl mewn ysgolion.
Cefnogi ymchwil gyda data
Ar ôl darparu cymorth i dros 300 o brosiectau ymchwil a 500 o ymchwilwyr yn 2022, mae’r Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw yn falch o gefnogi cymaint mwy o astudiaethau i ddefnyddio data er budd y cyhoedd yn 2023.
Datblygu gyrfaoedd ymchwil
Eleni, mae ein Cyfadran yn gweithio ar gynlluniau ariannu ymchwil newydd, mwy cynhwysol i gefnogi’r rhai sy’n datblygu ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol hanfodol yng Nghymru.
Bydd y tîm yn gweithio gydag aelodau o’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol i ddatblygu eu gyrfaoedd a chefnogi’r ymchwilwyr hyn i gyflwyno tystiolaeth ar gyfer triniaethau a gofal sy’n newid bywydau.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl ymchwil newid bywyd sy'n digwydd yng Nghymru, cofrestrwch ar gyfer bwletin Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.