Fern Jones

“Cyfarwyddo cymdeithasol yn helpu pobl i fyw bywyd llawn a gwerthfawr”

Mae gwyddonwyr, ymchwilwyr, meddygon, nyrsys, clinigwyr a gweithwyr gofal dawnus ledled Cymru’n rhoi o’u hamser a’u hymdrech i ddatblygu meddyginiaethau sy’n torri tir newydd ac i ofalu amdanon ni.

Wedi gweithio mewn cyfarwyddo cymdeithasol am dair blynedd, roedd Fern Jones yn gwybod mai cwblhau PhD yn y sector hwnnw fyddai’r llwybr gyrfa delfrydol iddi hi.

Mae prosiect PhD Fern yn golygu casglu tystiolaeth ar gyfer creu pecyn hyfforddi cyson ar gyfer gweithwyr cyswllt, sef y bobl sydd yn rhoi cyfarwyddo cymdeithasol ar waith allan yn y gymuned yng Nghymru.

Mae hi yn un o dri myfyriwr PhD gofal cymdeithasol a arianwyd yn 2020/21 gan Gynllun Ysgoloriaeth Ymchwil PhD Gofal Cymdeithasol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Beth ydy cyfarwyddo cymdeithasol?

“Mae cyfarwyddo cymdeithasol yn faes iechyd a llesiant hynod o gyffrous i weithio ynddo. Mae yn dod yn boblogaidd iawn ac yn cael ei ddefnyddio a’i gydnabod fwyfwy yng Ngymru, yn rhannol oherwydd dylanwad ymchwil gwerthfawr trwy Adran Ymchwil Cyfarwyddo Cymdeithasol Cymru.

“Mae’n golygu cysylltu pobl gyda’u cymuned er mwyn gwella eu hiechyd a’u llesiant. Gallwch ddefnyddio’r pum cam i lesiant i gael sgwrs gyda phobl ynghylch yr sydd yn bwysig iddynt, a thrwy hynny baratoi’r ffordd iddynt hwy eu hunain deimlo’n well.  Mae cyfarwyddo cymdeithasol yn golygu helpu pobl i fyw bywyd llawn a gwerthfawr a byw yn iach er mwyn ysgafnhau pwysau ar ddoctoriaid a nyrsus a hyrwyddo ymdrechion y GIG.

“Gwelais un enghraifft amlwg o hyn yn fy ngwaith sef gwraig yn ei 80au yn mynegi iselder a phryder wrth ei meddyg teulu. Cafodd y meddyg ganiatâd ganddi i’w chyfeirio at y gwasanaeth cyfarwyddo cymdeithasol lleol.

 “Wedi cyfarfod â hi a thrafod beth oedd yn ei phoeni, canfu’r gweithiwr cyswllt ei bod wedi colli ei gwr yn ddiweddar. Nid yn unig yr oedd yn galaru am ei phartner, ond yr oedd hefyd wedi colli ei phrif ddull o deithio gan mai ef yn unig oedd yn gyrru eu car.

“Lluniodd y gweithiwr cyswllt gynllun nodau gyda hi gan roi sylw i’w diddordebau ac amlygu ei chryfderau ac unrhyw rwystrau a allai eu hwynebu. Roedd y wraig yn hoffi gwnïo, a’i chryfder yma oedd ei bod yn berson cymdeithasol ac yn hoffi sgwrsio. Ei rhwystr oedd nad oedd wedi defnyddio trafnidiaeth cyhoeddus ers 30 mlynedd. 

“Gyda’i gilydd, gwnaeth y wraig a’r gweithiwr cyswllt gais am docyn teithio (bws) a chychwyn ar brosiect oedd yn adeiladu hyder ar drafnidiaeth cyhoeddus; hefyd buont yn chwilio am grwpiau crefftau lleol o fewn cyrraedd iddi gyda bws.”

Datblygu pecyn hyfforddi addas ar gyfer Cymru

“Roeddwn yn gweithio fel cyswllt cymdeithasol yn Sir Benfro, ond yn gorfod dysgu wrth fynd ymlaen  gan nad oedd unrhyw lwybr hyfforddiant wedi ei sefydlu yng Nghymru. Roedd mwyafrif yr adnoddau yn dod o Loegr ond nid oedd y rhain yn hollol addas ar gyfer Cymru. Roeddwn i eisiau gwneud cais am y PhD hwn er mwyn gwneud yn siwr ein bod yn cael pecyn hyfforddi hollol addas ar gweithwyr cyswllt yng Nghymru, gan mai hwy yw’r bobl allweddol o ran cyfarwyddo cymdeithasol.

“Fe wnes i gwblhau gradd mewn seicoleg a chwrs ôl-radd oedd yn addas iawn i’r prosiect hwn gan ei fod yn archwilio ymddygiad pobl a pham yr ydym yn gwneud yr hyn a wnawn. Roeddwn wrth fy modd pan gefais fy mhenodi ac rwyf yn dal i weithio un diwrnod yr wythnos o fewn cyfarwyddo cymdeithasol er mwyn cadw fy rhwydweithiau yn agored ac i ddiweddaru fy ngwybodaeth a’m profiad.

Buaswn yn hoffi cael cyfle i addysgu ac ymchwilio mwy yn y maes hwn, a sefydlu rhagor o swyddi cysylltwyr cymdeithasol yng Nghymru. Fy ngobaith yw y bydd hyfforddiant yn gwneud i ffwrdd â’r ‘loteri côd post’ sydd yn bodoli ar y funud o ran cyfarwyddo cymdeithasol yng Nghymru, gan sicrhau bod gwybodaeth safonol yn cael ei rhannu dros y wlad tra hefyd yn cydnabod bod anghenion pobl yn amrywio o gymuned i gymuned yng Nghymru a bod hyn yn gwneud gwahaniaeth i’r hyfforddiant sydd ei angen.

“Gall cael gwell dealltwriaeth o’r modd y mae hyfforddiant cyfarwyddo cymdeithasol yn gweithio, i bwy, o dan pa amgylchiadau, a pham, helpu cynllunwyr polisïau a rhanddeiliaid allweddol i wneud newidiadau ar sail tystiolaeth i raglenni hyfforddi.”

 


Mae Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil PhD Gofal Cymdeithasol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ariannu unigolion talentog i ymgymryd ag ymchwil ac astudiaethau fydd yn arwain at PhD yng Nghymru. 

Mae'r cynllun yn cefnogi ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol trwy ariannu prosiectau ymchwil ansawdd uchel, darparu tystiolaeth gadarn sydd yn mynd i'r afael ag anghenion gofal cymdeithasol defnyddwyr, gofalwyr a'r boblogaeth ehangach, ac yn trefnu a darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol efeithlon yng Nghymru.

Dysgwch fwy am y bobl y tu ôl i'r ymchwil a sut mae ymchwil Cymru wedi newid bywydau.

I gael y newyddion ymchwil diweddaraf yng Nghymru yn syth i'ch mewnflwch, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol.