Vaccine being given to woman

Mae Cymru yn chwarae rhan annatod mewn ymchwil hanfodol i imiwneiddio

Oeddech chi'n gwybod bod brechlynnau wedi bodoli ers dros 200 mlynedd? Cyn eu creu, nid oedd gennym lawer o obaith brwydro yn erbyn clefydau heintus. Diolch i ymchwil, nid oes yn rhaid i ni boeni cymaint am farw o salwch fel polio neu difftheria.

Yn ystod Wythnos Imiwneiddio’r Byd (24 – 30 Ebrill 2023) cewch weld sut mae ymchwil hanfodol sy’n digwydd yng Nghymru wedi helpu i ddatblygu brechlynnau arloesol ac imiwneiddio miliynau o bobl rhag clefydau a allai fod yn farwol.

Dechrau gyda’r frech wen

O'r 1700au hyd at yr 20fed Ganrif, os câi rhywun y frech wen, roedd yn debygol o fod yn angheuol. Heb unrhyw driniaeth effeithiol a gyda'r salwch yn lladd bron i 60 miliwn o bobl ledled y byd, roedd y rhagolygon yn llwm.

Daeth datblygiad allweddol yn 1796 pan ddangosodd astudiaeth ymchwil gynnar gan Dr Edward Jenner y byddai gosod crawn a gymerwyd o fuwch wedi'i heintio â brech y fuwch i doriad bach ar y fraich yn rhoi imiwnedd rhag y frech wen.

Dywedodd Dr David Llewellyn, Arweinydd Rhwydweithiau Llesiant Integredig Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Pan gyhoeddodd Jenner ganlyniadau ei ymchwil, roedd yn cael ei ystyried yn dipyn o rebel, ond erbyn dechrau’r 1800au roedd llawer o bobl ar draws y DU eisoes yn awyddus i'w plant ac aelodau o'u teulu gael eu brechu. Cyn lleied â phum mlynedd ar ôl brechiadau cyntaf Jenner, roedd eisoes wedi ennill ei blwyf.”

Yn 1980, cyhoeddodd Sefydliad Iechyd y Byd fod y frech wen wedi cael ei dileu - diolch i frechlynnau.

Taclo pandemig byd-eang

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae brechlynnau wedi bod yn rhan enfawr o’n deialog dyddiol ac erbyn Ebrill 2022 roedd dros 2.4 miliwn o bobl wedi ymweld â chanolfannau brechu torfol a meddygfeydd ledled Cymru i gael eu hamddiffyn rhag COVID-19.

Chwaraeodd timau ymchwil yng Nghasnewydd rôl hanfodol wrth ddatblygu gwaith arloesol y brechlyn Oxford/AstraZeneca, gan recriwtio bron i 450 o gyfranogwyr i'r astudiaeth fyd-eang; y cyntaf o'i bath yng Nghymru. Cyfrannodd y tîm at raglen imiwneiddio a achubodd fywydau di-rif.

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Rwy’n falch o’r rôl y mae ein hymchwilwyr yng Nghymru wedi’i chwarae yn yr ymdrech hon ledled y DU a hoffwn ddiolch i’r cyfranogwyr sydd wedi gwirfoddoli. Gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol.”

Ers hynny, mae ymchwilwyr ledled Cymru wedi cymryd rhan mewn nifer o astudiaethau brechlyn COVID-19 gan gynnwys datblygu'r brechlyn cyntaf sy’n deillio o blanhigyn, yr astudiaeth NOVOVAX, a gymerodd le yn Wrecsam, ac yn ymchwilio i effeithiolrwydd rhoi brechlyn COVID-19 a brechlyn ffliw ar yr un pryd.

Ymchwil heddiw, gofal yfory

Mae ymchwil yn parhau i ddatblygiad brechlynnau i’n hamddiffyn rhag rhai o’r heriau iechyd mwyaf heddiw. O'n hamddiffyn rhag firysau newydd sy'n dod i'r amlwg i drechu canser, mae ymchwil yn hanfodol i ddyfodol iechyd a gofal yng Nghymru.

Mae'r Athro Andy Sewell, Athro mewn Imiwnoleg ac Uwch Ymchwilydd Ymddiriedolaeth Wellcome ym Mhrifysgol Caerdydd, yn astudio sut y gall systemau imiwnedd rhai unigolion glirio canser cam olaf.

Dywedodd: “Rwy’n credu’n llwyr ein bod ar ein ffordd i frechlynnau canser, sy’n rhatach o lawer ac yn llawer llai ymledol na therapïau imiwnedd presennol.

“Byddai brechlyn canser yn mynd i mewn ac yn ysgogi eich celloedd T i ddod o hyd i ganser a’i ddinistrio, yna eu gosod fel atgof yn eich system imiwnedd. Mae hyn yn debyg i sut y gall haint neu frechlyn blaenorol eich atal rhag cael yr haint hwnnw eto. Dyna fy ngobaith ar gyfer y dyfodol.”

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am bopeth sy'n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol sy'n digwydd yng Nghymru cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol @YmchwilCymru.