podlediad Ble fydden ni heb ymchwil?

Podlediadau

Mae’r podlediad Ble fydden ni heb ymchwil? yn olwg manwl ar fyd ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Ymunwch â'n cyflwynydd, y newyddiadurwr Dot Davies, wrth iddi ymgolli mewn sgyrsiau gyda gwesteion gan ystyried pynciau fel ymwrthedd gwrthficrobaidd a pham ei bod yn ras rhyngom ni a'r bacteria.


Brwydro’r ’superbugs’— defnyddio ymchwil i achub dynoliaeth gyda Dr Angharad Davies 

Ni fyddai llawdriniaethau i achub bywyd yn gallu digwydd heb gwrthfiotigau, ond mae’r gwyddorau meddygol yn brwydro’n ddyddiol yn erbyn heintiau newydd a’r ‘superbugs’ sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau. Mae Dr Angharad Davies, arweinydd arbenigedd heintiau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn esbonio wrth Dot Davies am y gwaith ymchwil sy’n mynd ymlaen yn y frwydr yn erbyn yr archheintiau, un o’r prif heriau sy’n wynebu meddygaeth heddiw. 


Ymosodiad y celloedd-T ffyrnig - ymchwilio i'r iachâd ar gyfer canser gyda'r Athro Andrew Sewell 

Ein gwestai y tro hwn yw'r Athro Andy Sewell, Athro Imiwnoleg ac Uwch Ymchwilydd Ymddiriedolaeth Wellcome ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'n arbenigo mewn ymchwil i gelloedd-T, sy'n ei roi ar flaen y gad o ran ymchwil i imiwnedd i heintiau gan gynnwys SARS-CoV-2, cyflyrau awto-imiwn fel clefyd y siwgr Math 1 a sbondylitis ymasiol a datblygu therapïau newydd arloesol ar gyfer canser. 

Yn y rhifyn hwn, mae'r cyflwynydd Emma Yhnell yn clywed gan Andy am ei daith i ymchwil canser, sut mae celloedd-T ffyrnig yn gweithio yn y corff a pham mae datblygiadau meddygol fel brechlynnau yn amhrisiadwy i ddynol ryw. Mae hi hefyd yn cael ei farn ar le byddai cymdeithasau dynol heb ymchwil... ddim yn bell iawn o gwbl! 

Gan ddefnyddio ei gyfoeth o brofiad ym maes imiwnoleg, mae Andy yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymchwil heddiw ac yn crybwyll y posibilrwydd o ddatblygu brechlyn ar gyfer canser yn y dyfodol agos. (Sain yn Saesneg)


Yn gweithio gyda chymunedau yng Nghymru – o focsio i filltir Butetown gyda Dr Sarah Fry 

Mae Dr Sarah Fry yn uwch ddarlithydd mewn Nyrsio Oedolion ac yn ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Ar ôl iddi adfer o diwmor ar yr ymennydd yn ei hugeiniau, cafodd ei hysbrydoli i droi ei sylw tuag at ymchwil canser mewn cymunedau yng Nghaerdydd sydd heb eu gwasanaethu’n ddigonol. 

Yn y bennod hon, mae’n dweud wrth y cyflwynydd Emma Yhnell am ei diagnosis ei hun, am godi ymwybyddiaeth o canser y prostad ymhlith dynion duon ac am sut y mae ymchwilwyr yn gallu meithrin ymddiriedaeth yn y cymunedau y maen nhw’n eu hastudio. 

Ac wrth gwrs, rydyn ni’n gofyn y cwestiwn tyngedfennol, Ble fydden ni heb ymchwil? iddi, i gael syniad o pam fod ymchwil mor hanfodol i gael mwy o bobl i fynd i glinigau ac i wneud gofal iechyd yn fwy hygyrch. (Sain yn Saesneg)


Rhoi sylw i seicosis ôl-enedigol ar y teledu pan fo’r gynulleidfa ar ei mwyaf, gyda’r Athro Ian Jones

Yn ogystal â bod yn Uwch Arweinydd Ymchwil yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae’r Athro Ian Jones hefyd yn gyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl.

Mae ymchwil Ian yn canolbwyntio ar ddeall y pethau sy’n sbarduno clefydau iechyd meddwl menywod ar ôl rhoi genedigaeth, yn enwedig menywod ag anhwylder deubegynol.

Mae 20% o fenywod sydd ag anhwylder deubegynol yn debygol o ddioddef o seicosis ôl-enedigol o’u cymharu â 0.1% yn unig yn y boblogaeth gyffredinol. Mae Ian yn esbonio nad oes yna ddigon o ymchwil i iechyd menywod, ac yn enwedig i’w hiechyd meddwl. Mae’n mynegi pwysigrwydd ei ymchwil ef, ac ymchwil pobl eraill, i ddeall y ffactorau sy’n cyfrannu at risg gynyddol menywod o ddatblygu seicosis ôl-enedigol, a fydd yn helpu i ddatblygu tactegau atal trylwyr a thriniaeth well.

Mae Ian hefyd yn rhoi ei farn ynglŷn â’r cwestiwn: Ble fydden ni heb ymchwil? (Sain yn Saesneg)


Rôl hanfodol pobl ifanc mewn siapio ymchwil, gyda Sophie Jones

Mae Sophie Jones wedi bod yn ymwneud ag ymchwil ers yn 14 oed, ar ôl ymuno â phrosiect ymgysylltu ag ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yn ei harddegau. Mae Sophie nawr yn Uwch Swyddog Cynnwys y Cyhoedd yn DECIPHer ac yn rhedeg ALPHA, sef grŵp ymchwil â’r nod o ddarganfod barn pobl ifanc ar bynciau’n ymwneud ag iechyd cyhoeddus.

Gan weithio gyda phobl 14 - 25 oed, nod ALPHA ydy newid polisi iechyd cyhoeddus trwy gael pobl ifanc i fod yn rhan o ymchwil o’r cychwyn cyntaf. Yn y podlediad hwn, bydd Sophie a’r cyflwynydd Emma Yhnell yn trafod effaith pobl ifanc ar ymchwil.

Un o gyflawniadau anferthol Sophie oedd y rhan y bu’n chwarae mewn ymgyrch i wahardd ysmygu mewn parciau. Gallwch chi glywed yn y bennod hon sut iddi wneud y newid hwn mewn polisi iechyd cyhoeddus yng Nghymru a’i hateb i’n cwestiwn: Ble fydden ni heb ymchwil? (Sain yn Saesneg)


Hanes brechlynnau – yr anghenfil brith gyda Dr David Llewellyn

Mae David Llewellyn, sydd wedi bod yn astudio hanes brechlynnau o ddiwedd y 1700au i nawr, yn ymuno â Dr Emma Yhnell – gwyddonydd ac uwch ddarlithydd. Bydd yn esbonio pwysigrwydd cyfuno ymchwil wyddonol ag ymchwil hanesyddol a gwaith ar y cyd wrth fynd ati i ateb y cwestiwn: Ble fydden ni heb ymchwil?

Mae brechlynnau wedi bod yn brif destun sgyrsiau mewn blynyddoedd diweddar oherwydd y pandemig COVID-19 ac mae David, sy’n arweinydd Rhwydweithiau Llesiant Integredig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn  cloddio i hanes brechlynnau, gan ddod ag ymchwil yn ôl i’r cyfnod sydd ohoni drwy drafod yr ymchwil a’r broses y tu ôl i frechlynnau a gynhyrchwyd i frwydro yn erbyn y pandemig byd-eang. (Sain yn Saesneg)


Cyflwyno Dot Davies

Ble fyddem ni heb ymchwil? Yn fam i dri, aeth y darlledwr Dot Davies â'i babanod i gael eu brechu, ond ychydig iawn o sylw a roddodd i'r ffordd y daeth y brechlynnau i fodolaeth.
 
Ond wrth holi arbenigwyr yn ystod y pandemig ac wrth wneud rhaglenni ar afiechydon fel clefyd niwronau motor, daeth i ddeall ac i edmygu gwaith y rhai sy'n gweithio ym maes ymchwil wrth iddynt geisio gwella triniaethau a gofal a rhoi gobaith.

Nawr mae hi'n edrych ymlaen at ddarganfod mwy am y bobl hyn sy'n gweithio'n ddiflino i drawsnewid ac achub bywydau.

 

Byddwch y cyntaf i wybod am ein podlediadau diweddaraf i gael eu rhyddhau a mwy:

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr wythnosol