Siaradwr ar y llwyfan

Cael pobl i gymryd rhan mewn ymchwil: swyddogaeth Safonau'r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd yng Nghymru

Ond rydym wedi clywed llai am swyddogaeth hanfodol cynnwys y cyhoedd. Dyma pryd mae aelodau o'r cyhoedd yn rhannu eu profiadau personol i helpu ymchwilwyr i gynllunio a chyflwyno eu hastudiaeth. Mae'n rhan hanfodol o wneud ymchwil yn effeithiol ac yn berthnasol i'r bobl y bwriedir iddi eu helpu.

Nod Safonau Cynnwys y Cyhoedd y DU, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2019, yw gwella ansawdd a chysondeb cyfraniad y cyhoedd i ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Fe'u datblygwyd rhwng 2015 a 2018 drwy bartneriaeth rhwng pedair gwlad y DU a bu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ran allweddol yn y broses ymgynghori a'r rhaglen dreialu blwyddyn o hyd a gynhaliwyd yn 2019.

Rhoi hunaniaeth i gynnwys y cyhoedd

Barbara Moore yw Uwch Reolwr Cynnwys y Cyhoedd ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a'i swyddogaeth yw cynorthwyo a hyrwyddo cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.

Dywedodd Barbara: "O'r cychwyn cyntaf, roedd awydd cryf yn y gymuned ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol i greu cyfres o egwyddorion a fyddai'n nodi sut olwg sydd ar gynnwys y cyhoedd yn dda.

"Ar draws y pedair gwlad roedd amrywiaeth go iawn yn y ffordd yr oedd y cyhoedd yn cymryd rhan. Nid oedd bob amser yn cael ei wneud mewn ffordd a oedd yn grymuso neu'n rhoi boddhad i'r cyhoedd ac roedd ymchwilwyr a'r cyhoedd yn galw am arweiniad."

Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, gweithiodd y cenhedloedd gyda'i gilydd i edrych yn fanwl ar y chwe maes pwyslais er mwyn cynnwys y cyhoedd yn dda. Mae Bob McAlister yn aelod o'r cyhoedd a fu'n ymwneud yn agos â'r broses hon a datblygu Safonau'r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd.

Dywedodd Bob: "Roedd y broses o ddatblygu Safonau'r DU yn enghraifft wych o gynnwys y cyhoedd. Roeddwn yn aelod llawn o'r grŵp. Ein tasg oedd creu canllawiau ar gyfer gweithgaredd a oedd eisoes ar y gweill ledled y DU felly roedd angen i'r safonau newydd gynnwys popeth a oedd eisoes yn gweithio'n dda.

"Rwy'n credu ein bod wedi cyflawni hynny oherwydd profiad aelodau'r grŵp a'r ymgynghoriad rheolaidd. P'un ag ydych yn ymchwilydd, yn gyllidwr neu'n aelod o'r cyhoedd fel fi, gallwch nawr ddod o hyd i gymorth gydag agweddau fel recriwtio i astudiaethau, sut i weithio'n effeithiol gyda'ch gilydd neu fesur effaith eich ymdrechion ar y cyd."

Dywedodd Barbara: "Mae Safonau'r DU yn bwysig iawn gan eu bod yn rhoi hunaniaeth i gynnwys y cyhoedd. Maen nhw’n darparu pwynt cyfeirio i unrhyw un sy'n gweithio ym maes ymchwil ar sut i gynnwys y cyhoedd mewn ffordd sy'n gynhwysol ac sy'n cael effaith wirioneddol. Roedd yn drobwynt i ymchwilwyr eu bod yno i gyfeirio atynt ac maen nhw wedi’u defnyddio i lywio llawer o astudiaethau a phrosesau ymchwil yn 2020."

Y chwe Safon ar gyfer y DU yw: Cyfleoedd Cynhwysol, Cyfathrebu, Cymorth a Dysgu, Gweithio Gyda'n Gilydd, Llywodraethu ac Effaith.

Dywedodd Barbara: "Pan wnaethon ni gynnal ymgynghoriadau gyda phobl a oedd yn treialu'r safonau, Llywodraethu ac Effaith oedd y ddau faes lle dywedon nhw eu bod yn cael trafferth. Yn ymarferol, mae'n ymwneud â chynnwys y cyhoedd yn y gwaith o reoli ymchwil a rhannu'r gwahaniaeth y mae eu cyfranogiad wedi'i wneud.

"Mae'n ymwneud â chynnwys aelodau o'r cyhoedd o'r cychwyn cyntaf a mynd â nhw ar y daith ymchwil gyda chi."

Rhoi'r cyhoedd wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau

Un sefydliad sydd wedi gweithio'n galed i gynnwys pobl y mae cyflyrau genetig yn effeithio arnynt ac aelodau o'r cyhoedd mewn penderfyniadau llywodraethu yw Partneriaeth Genomeg Cymru (GPW).

Ym mis Ebrill 2019 lansiodd GPW y Bwrdd Seinio Cleifion a'r Cyhoedd gyda chymorth Parc Geneteg Cymru, sy'n rhan o gymuned Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Dywedodd Emma Hughes, Arweinydd Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd ym Mharc Geneteg Cymru: "Mae'n amcan allweddol i ni wella dealltwriaeth pobl o genomeg a rhannu ein hymchwil mewn ffordd sy'n agored ac yn hygyrch. Sefydlwyd y Bwrdd Seinio gennym i roi profiadau cleifion a'r cyhoedd wrth wraidd ein penderfyniadau."

Ar hyn o bryd mae 18 o bobl ar y Bwrdd Seinio sy'n cynrychioli amrywiaeth o oedrannau, rhyweddau, lleoliadau a phrofiadau. Mae'r Aelodau'n eistedd ar y panel am ddwy flynedd.

Dywedodd Emma: "Mae holl ethos y Bwrdd Seinio yn seiliedig ar Safonau'r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd. Ein nod yw gwneud popeth yn broses ddwyffordd; rydym yn gofyn i'r bwrdd beth yw eu blaenoriaethau a sut y gallwn wella profiad y cyhoedd, yn hytrach na'n bod ni bob amser yn gosod yr agenda. Rydym yn eu cynnwys ym mhob agwedd ar y rhaglen. "

Nid yw'n ymwneud â'r broses ymchwil yn unig ychwaith, mae gan y Bwrdd Seinio ran allweddol wrth lunio gwasanaethau clinigol i deuluoedd yn y dyfodol.

Dywedodd Emma: "Ar hyn o bryd mae'r Bwrdd yn cynorthwyo datblygiad cyfleuster genomeg newydd. Mae'r Aelodau wedi tynnu sylw at feysydd pwyslais allweddol, gan sicrhau bod y cynllun yn fwy cynhwysol ac wedi cynnig awgrymiadau gwych ar gyfer cynllunio'r cynllun. Mae'r ffyrdd y mae aelodau'n ymwneud â gwaith GPW yn eang ac mae eu cyfraniad bob amser yn amhrisiadwy."

Pecyn hyfforddi newydd i Gymru

Dros y chwe mis diwethaf mae Barbara a'i thîm wedi bod yn gweithio ar becyn hyfforddi newydd a fydd yn helpu'r rhai sy'n gweithio ym maes ymchwil i ddefnyddio Safonau'r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd.

Dywedodd Barbara: "Roedden ni eisiau creu adnodd ar-lein syml a oedd yn benodol i Gymru. Bydd y pecyn hyfforddi newydd hwn yn mynd â staff ymchwil a'r cyhoedd drwy hanfodion yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wybod a sut i gymhwyso Safonau'r DU yn eu gwaith.

"Dydyn ni ddim eisiau i gyfranogiad y cyhoedd fod yn ôl-ystyriaeth. Mae aelodau o'r cyhoedd yn chwarae rhan mor bwysig o ran gwneud ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn well. Yr unig beth y mae angen i ymchwilwyr ei wneud yw gofyn iddyn nhw. Rydym ni’n gobeithio y bydd yr hyfforddiant hwn yn annog y rhai sy'n gweithio ym maes ymchwil i fyfyrio ar y ffyrdd ystyrlon niferus y gallan nhw gynnwys y cyhoedd."

Dysgwch fwy am Becyn Hyfforddi Cynnwys y Cyhoedd Safonau'r DU ar gyfer Cymru.

Ymchwilwyr, os hoffech gael cymorth i gynnwys aelodau o'r cyhoedd yn eich ymchwil, cysylltwch â'n tîm cynnwys y cyhoedd

Os ydych yn aelod o'r cyhoedd ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr Cynnwys Pobl o Bwys wythnosol.


Cyhoeddwyd gyntaf: 31 Mawrth 2021