Vial a chwistrell o flaen COVID

Caerdydd i gynnal y drydedd astudiaeth fawr i ddod o hyd i frechlyn COVID-19

22 Tachwedd

Mae’r cyhoedd yn cael eu hannog i helpu i barhau â’r gwaith o chwilio am frechlynnau COVID-19 diogel ac effeithiol drwy ymuno â’r treial cam 3 diweddaraf.

Bydd miloedd o wirfoddolwyr ledled y DU yn dechrau cymryd rhan mewn astudiaeth yr wythnos hon i brofi effeithiolrwydd brechlyn Covid-19 dau ddos newydd Janssen, a Caerdydd yw un o’r lleoliadau.

Bydd yr astudiaeth ddiweddaraf, a ariennir ar y cyd gan Dasglu Brechlyn Llywodraeth y DU, yn profi diogelwch ac effeithiolrwydd trefn dau ddos newydd ar gyfer brechlyn ymgeisiol, a ddatblygwyd gan gwmnïau fferyllol The Janssen Pharmaceutical Companies of Johnson & Johnson. Bydd yr astudiaeth yn recriwtio hyd at 30,000 o bobl yn fyd-eang.

Disgwylir i sawl astudiaeth cam 3 arall am frechlynnau posibl ddechrau dros y chwe mis nesaf, felly mae ymchwilwyr yn pwysleisio’r angen am wirfoddolwyr ledled y DU i barhau i frwydro yn erbyn y coronafeirws.

Mae angen penodol am wirfoddolwyr sydd mwyaf agored i niwed o effeithiau’r coronafeirws, gan gynnwys gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen a phobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Dywedodd Dr Andrew Freedman, Prif Ymchwiliwr treial Janssen a Darllenydd a Meddyg Ymgynghorol mewn Clefydau Heintus ym Mhrifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:

“Mae’n galonogol clywed am y datblygiadau diweddar o ran brechlynnau, ond mae yna dal waith i’w wneud. Mae angen inni barhau â’r gwaith hwn, ac rydyn ni eisoes wedi gweld bod y brechlyn ymgeisiol hwn y bu cryn ymchwilio iddo’n cynhyrchu adwaith imiwn cadarn mewn astudiaethau cyfnod cynnar mewn pobl; y cam nesaf ydy’r treial mwy o lawer hwn i gadarnhau ei fod yn gallu rheoli’r haint yn effeithiol. Mae’n bleser gen i bod BIP Caerdydd a’r Fro, ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn rhedeg y treial hwn a byddwn i’n annog pobl sy’n byw yn ardal Caerdydd a’r Fro i ystyried cymryd rhan.”

Mae Llywodraeth y DU wedi datblygu portffolio o chwe gwahanol frechlyn ymgeisiol ac wedi sicrhau bod 350 miliwn dos ar gael hyd yn hyn. Yn rhan o hyn, mae cytundeb wedi’i wneud mewn egwyddor y byddai 30 miliwn dos o frechlyn Janssen ar gael i’r DU os bydd yn ddiogel ac yn effeithiol.

Dywedodd Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth ein bodd i fod yn gweithio ar y cyd â Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd i gyflawni’r treial ymchwil brechlyn COVID-19 pwysig hwn yng Nghymru.

“Os yw’n llwyddiannus, bydd gan y gwaith hwn effaith hirdymor ar iechyd poblogaeth Cymru. Rwy’n annog pobl yng Nghymru i gymryd rhan yn yr ymchwil pwysig hwn.”

Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy’n cydlynu’r ymchwil yn genedlaethol ac yn sefydlu’r astudiaeth yng Nghymru:

“Yr unig ffordd i roi terfyn ar y pandemig hwn yw drwy fod â brechlyn effeithiol, a gallwn fod yn hynod o falch o’r ymdrech yng Nghymru gan ein cymuned ymchwil a gofal iechyd mewn cydweithrediad â phartneriaid ledled y DU ac yn genedlaethol i ddatblygu a phrofi brechlynnau. Dydw i ddim yn credu ein bod ni erioed wedi gweld astudiaethau ymchwil brechlyn yn cael eu cynnal gyda’r holl ddulliau diogelu arferol ond ar y fath raddfa a chyflymdra y byddwn ni’n gwybod beth sy’n gweithio o fewn misoedd yn hytrach na blynyddoedd. Mae’n enghraifft wych o sut gall ymchwil iechyd a gofal wneud gwahaniaeth enfawr a gwirioneddol i fywydau pobl a chymunedau yng Nghymru.”

Gall pobl sydd eisiau gwirfoddoli ar gyfer treial Janssen gofrestru yma: https://gb.ensemblestudy.com