Adolygiad cyflym o rwystrau a hwyluswyr manteisio ar sgrinio am ganser (y fron, ceg y groth a’r coluddyn) mewn poblogaethau sydd heb eu gwasanaethu’n ddigonol

Cefndir a Chyd-destun

Mae’r GIG yn darparu rhaglenni sgrinio ar gyfer canser y coluddyn, y fron a cheg y groth. Gohiriwyd y rhaglenni sgrinio hyn ar ddechrau’r pandemig COVID-19 ym mis Mawrth 2020, sy’n golygu y bu oedi ag apwyntiadau llawer iawn o bobl. 

Nodau

Bu’r adolygiad hwn yn edrych ar ba resymau a allai atal, neu a allai beidio ag atal pobl, yn enwedig y rheini o grwpiau sydd heb eu gwasanaethu’n ddigonol, rhag mynychu apwyntiadau sgrinio ac yn edrych i weld a oedd yna unrhyw wahaniaeth yn y rhesymau a roddwyd o’u cymharu â’r rhesymau cyn y pandemig.

Strategaeth

Bu’r ymchwilwyr yn edrych ar astudiaethau o’r DU yn ogystal ag o wledydd eraill sy’n rhedeg rhaglenni sgrinio tebyg i rai y DU, gan gynnwys Awstralia a’r Iseldiroedd. Gwnaethon nhw edrych am astudiaeth o’r cyfnodau yn ystod y pandemig a chyn y pandemig.

Deilliannau

Daethon nhw o hyd i ddeg o astudiaethau perthnasol. Roedd pump o’r astudiaethau wedi’u cynnal yn ystod y pandemig a phump ohonyn nhw wedi’u cynnal cyn y pandemig. Ni wnaeth yr un o’r astudiaethau edrych ar boblogaethau heb eu gwasanaethu’n ddigonol ar eu pennau eu hunain.

Roedd y rhesymau pam y gallai pobl beidio â mynychu apwyntiadau sgrinio’n cynnwys: ofn; embaras; stigma, diffyg addysg a chefnogaeth; rhwystrau ieithyddol a diwylliannol ac amseroedd apwyntiadau. Roedd y rhesymau pam y gallai pobl fynychu apwyntiadau sgrinio’n cynnwys: clywed straeon pobl am sgrinio a chanser; ymddiriedaeth a chefnogaeth ieithyddol.

Effaith

Ni wnaeth yr astudiaethau ddangos unrhyw wahaniaeth rhwng y cyfnod cyn y pandemig ac yn ystod y pandemig, o ran y rhesymau pam y gallai poblogaethau sydd heb eu gwasanaethu’n ddigonol fynychu apwyntiadau sgrinio neu beidio.  Nid yw’n glir a yw hyn oherwydd nad oes yna unrhyw wahaniaeth yn rhesymau pobl, neu oherwydd nad oes yna ddigon o ymchwil yn y maes hwn.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Awdur cryno: Alexandra Strong

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR00035