Dau fynychwr mewn gweithdy

Canllaw hanfodol i'r broses ymgeisio am fynediad data

22 Mai

Mae Cronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi creu fideo i egluro ei broses ymgeisio dau gam ar gyfer ymchwilwyr a hoffai gael mynediad at ddata ar gyfer prosiectau ymchwil o ansawdd uchel.

Mae'r broses ymgeisio wedi'i hanelu'n bennaf at ddefnyddwyr SAIL, ymchwilwyr gyrfa gynnar a myfyrwyr sydd â diddordeb mewn ymchwil data iechyd neu weinyddol, er mwyn darparu mwy o dryloywder ynghylch sut i gael mynediad at ddata SAIL. Ochr yn ochr â hyn, mae wedi'i anelu at y cyhoedd yn gyffredinol er mwyn cynyddu tryloywder ac ymddiriedaeth.

Mae’r Prosiect Safon Tryloywder, a gychwynnwyd gan Gynghrair Ymchwil Data Iechyd y DU ac a ddatblygwyd ar y cyd â Bwrdd Cynghori Cyhoeddus Ymchwil Data Iechyd y DU, yn cynnig arweiniad ar hysbysu’r cyhoedd ac ymchwilwyr am brosesau mynediad at ddata. Mae Cronfa Ddata SAIL yn un o 19 sefydliad sydd wedi derbyn grant i helpu i fabwysiadu'r safonau hyn.

Gwyliwch y fideo newydd 'Mynediad at Ddata' sydd wedi'i greu ar gyfer y Prosiect Safon Tryloywder a'i nod yw gwella tryloywder i holl randdeiliaid SAIL neu ewch i'w gwefan i ddarganfod mwy.