Canllawiau Cynigion Metastasisau Esgyrn – Cyflwyno Cynigion
Mae’r Sefydliad Ymchwil Canser Cenedlaethol (NCRI) yn croesawu ymchwilwyr i gyflwyno eu syniadau astudio ymchwil metastasisau esgyrn ar gyfer y cyfarfod Canllawiau Cynigion nesaf, sy’n cael ei gynnal yn rhithiol ddydd Iau 22 Mehefin 2023.
Nod y cyfarfod yw rhoi cyfle i ymchwilwyr gyflwyno eu cynigion astudio i’w hadolygu gan banel pwrpasol o arbenigwyr a derbyn adborth ysgrifenedig manwl i’w helpu gyda datblygu eu hastudiaeth, cyn cyflwyno i alwad ariannu’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) (Rheoli metastasis esgyrn a digwyddiadau sgerbydol cysylltiedig (SREs) mewn cleifion â chanser datblygedig).
Mae pob panel adolygu yn cynnwys hyd at ddeg arbenigwr amlddisgyblaethol, a allai gynnwys arbenigwyr mewn gwyddoniaeth drosi, diagnosteg, deallusrwydd artiffisial a gwyddor data, cynnwys cleifion a’r cyhoedd a meysydd eraill. Hoffai’r Sefydliad Ymchwil Canser Cenedlaethol hefyd wahodd aelodau i fod yn rhan o’r paneli adolygu. Mynegwch eich diddordeb drwy’r ffurflen hon
Os hoffech gyflwyno cynnig i’w adolygu, llenwch eich cais drwy’r wefan.
Anfonwch e-bost at y tîm os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch.
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynigion: hanner nos, 15 Mai 2023