Eisteddodd y grŵp o amgylch y bwrdd

Canllawiau newydd ar gyfer talu aelodau o’r cyhoedd sy’n cyfrannu at ymchwil yn haws

12 Ebrill

Mae canllawiau newydd wedi'u lansio (heddiw) i helpu sefydliadau, ymchwilwyr a staff cynnwys i dalu aelodau o'r cyhoedd sy’n llunio ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol sy'n newid bywydau ledled y DU ac Iwerddon.

Talu araf yn rhwystr

Mae gweithdrefnau talu araf a chymhleth ar gyfer cyfranwyr cyhoeddus, cleifion ac aelodau o'r cyhoedd sy'n cyfrannu at ymchwil, wedi'u nodi fel rhwystr allweddol i gynnwys y cyhoedd yn gynhwysol ac yn hygyrch, a gydnabyddir gan bob un o'r pum gwlad ledled y DU ac Iwerddon.

Nod y canllaw hwn, a ddatblygwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal, a'r Awdurdod Ymchwil Iechyd, yw cefnogi sefydliadau i dalu cyfranwyr yn hawdd drwy:

  • ddisgrifio egwyddorion talu i gyfranwyr cyhoeddus a'r heriau allweddol a wynebir ar hyn o bryd yn y sector megis systemau talu anhyblyg, anghysondebau o fewn adrannau a gwybodaeth anghyson
  • rhoi cyfarwyddyd i'r rhai sy'n rheoli ac yn gweinyddu statws cyflogaeth taliadau a rheoliadau treth, a'u cefnogi i ddeall    
  • cyfeirio at wybodaeth a chanllawiau CThEM er mwyn llywio penderfyniadau ar daliadau yn seiliedig ar y gweithgareddau cynnwys megis mynychu digwyddiadau, seminarau, adolygu dogfennau o bell ac ati.

 Cynnwys y cyhoedd mewn ffordd ystyrlon

Mae'r prosiect hwn yn helpu i gefnogi nodau Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd yn ogystal â Gweledigaeth y DU i ddatgloi potensial llawn cyflawni ymchwil glinigol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, cryfhau adferiad economaidd a gwella bywydau pobl ledled y DU ac Iwerddon.

Dywedodd Alex Newberry, Pennaeth Is-adran Cynnwys y Cyhoedd, Ymchwil a Datblygu, Llywodraeth Cymru:

"Mae'r prosiect hwn yn ganlyniad i sgyrsiau pwysig gyda phobl ar lawr gwlad. Mae polisïau cymhleth a dulliau anghyson ar draws sefydliadau wedi achosi llawer o rwystredigaeth ac rydym am fynd i'r afael â'r rhwystr hwn yn genedlaethol er mwyn caniatáu i gynifer o bobl â phosibl helpu i lywio ymchwil sy'n newid bywydau. 

"Mae'r ymrwymiad hwn i fynd i'r afael â rhwystrau gweinyddol wedi bod yn agwedd hanfodol ar weledigaeth Darganfod Eich Rôl Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Rydym yn gobeithio, drwy weithio gyda'n gilydd, y gallwn roi'r hyder a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar ymchwilwyr, cyfranwyr cyhoeddus, arweinwyr cynnwys y cyhoedd yn ogystal â gweithwyr proffesiynol ym maes cyllid ac Adnoddau Dynol i alluogi cyfranogiad ystyrlon gan y cyhoedd."

Dywedodd Jim Elliott, Arweinydd Cynnwys y Cyhoedd yn yr Awdurdod Ymchwil Iechyd:

"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ystod mor amrywiol â phosibl o bobl yn gallu helpu i lywio, llunio a gwella ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Dim ond drwy gydnabod a gwobrwyo cyfraniad y cleifion ac aelodau o'r cyhoedd sy'n gweithio gyda thimau ymchwil drwy eu talu mewn modd sy'n hawdd ac nad yw'n eu hatal y gellir cyflawni hyn. Mae grŵp eang o sefydliadau ac aelodau o’r cyhoedd wedi gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu'r canllawiau hyn i helpu sefydliadau ac ymchwilwyr i deimlo'n fwy hyderus wrth wneud taliadau am gymryd rhan. Gobeithiwn y bydd y canllawiau newydd yn ei gwneud yn haws i dimau ymchwil wneud cyfraniad ystyrlon i'r cyhoedd gyda chleifion ac aelodau o'r cyhoedd yn eu hymchwil iechyd a gofal cymdeithasol." 

Mae'r ddogfen hon, a grëwyd yn unol â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM), hefyd wedi cael ei hadolygu gan weithwyr proffesiynol ym maes adnoddau dynol a chyllid, arweinwyr cynnwys y cyhoedd, arweinwyr polisi ac aelodau o'r cyhoedd sydd â phrofiad o'r mater.

Dywedodd Silvia Bortoli, Uwch Reolwr Cynnwys y Cyhoedd yn y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal:

"Fel cyllidwyr ymchwil, gofynnir i ni'n aml beth y gallwn ni ei wneud i fynd i'r afael â rhwystrau sefydliadol dwfn sy'n atal taliadau amserol ac addas rhag cael eu gwneud i gyfranwyr cyhoeddus am eu hymwneud ag ymchwil. Nod y gwaith hwn yw rhoi cyfeiriad i'r rhai sy'n rheoli ac yn gweinyddu trefniadau talu i lywio systemau heriol. Mae'r gwaith hwn yn arbennig o bwysig oherwydd gall talu cyfranwyr cyhoeddus yn briodol ac yn effeithlon helpu i gynnwys pobl o gefndiroedd amrywiol a sicrhau bod cymryd rhan mewn ymchwil yn gynhwysol."