Canllawiau newydd ar gyfer ymchwilwyr mewn labordai ar gynnwys cleifion a’r cyhoedd gan Parkinson’s UK
Mae Parkinson's UK wedi partneru â Chymdeithas Alzheimer a Chanolfan Ymchwil Fiofeddygol Ysbytai Coleg Prifysgol Llundain (UCLH) i ddatblygu adnodd digidol newydd i helpu ymchwilwyr mewn labordai â chynnwys cleifion a’r cyhoedd.
Mae’r canllawiau ar ffurf gwefan ac ysgrifennwyd nhw mewn partneriaeth ag ymchwilwyr, cleifion a gofalwyr.
Mae’r wefan yn cynnig adnoddau a chyngor ymarferol i helpu ymchwilwyr sy’n gweithio mewn labordai i fynd ati i gynnwys cleifion, gofalwyr ac aelodau o’r cyhoedd er mwyn gwella’u hymchwil.
Mae yna fwy am sut y datblygwyd y canllawiau ar wefan Parkinson's UK.