test_tubes

Canllawiau treialon clinigol newydd wedi'u cyhoeddi

22 Gorffennaf

Mae'r Awdurdod Ymchwil Iechyd wedi cyhoeddi canllawiau newydd i gyd-fynd â'r rheoliadau treialon clinigol wedi'u diweddaru sy'n dod i rym ym mhob un o'r pedair gwlad yn y DU (Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon) ar 28 Ebrill 2026.

Mae'r canllawiau yn esbonio beth fydd yn newid o ran prosesau, gofynion cyfreithiol, a disgwyliadau i unrhyw un sy'n ymwneud â sefydlu neu gyflwyno treialon clinigol. Mae'n cwmpasu'r diweddariadau canlynol i'r rheoliadau sydd wedi bod yn bwyslais allweddol i'r Awdurdod Ymchwil Iechyd:

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu os hoffech rannu adborth ar y canllawiau newydd a gyhoeddwyd, cwblhewch arolwg ar-lein yr Awdurdod Ymchwil Iechyd. Y dyddiad cau ar gyfer rhannu eich adborth yw 17:00 ddydd Mercher 10 Medi 2025.

 

Os byddai'n well gennych roi eich adborth ar sut mae'r canllawiau wedi'u hysgrifennu drwy e-bost, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at dîm ymgysylltu'r Awdurdod Ymchwil Iechyd.

 

Bydd yr adborth yn cael ei ddefnyddio i ddiweddaru canllawiau terfynol yr Awdurdod Ymchwil Iechyd a fydd yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

 

Mae'r Awdurdod Ymchwil Iechyd wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd i ddiweddaru'r rheoliadau treialon clinigol. Mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd wedi cyhoeddi canllawiau ar wahân sy'n cwmpasu meysydd allweddol y rheoliadau y maent wedi bod yn canolbwyntio arnynt.