
Canmol Banc Data SAIL am ei rôl mewn ymchwil lwyddiannus
30 Mai
Mae Banc Data SAIL, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi’i ganmol am y rhan y mae wedi’i chwarae a’r gefnogaeth y mae wedi’i rhoi i ymchwil a gynhaliwyd gan y tîm Gwyddor Data Poblogaeth (PDS) ym Mhrifysgol Abertawe, sydd wedi arwain at ddwy wobr yng Ngwobrau Blynyddol HDR y DU.
Roedd aelodau o dîm PDS yn rhan o Gonsortiwm CVD-COVID-UK / COVID-IMPACT, a dderbyniodd Wobr Susannah Boddie ar y cyd am Effaith y Flwyddyn. Mae’r wobr hon yn anrhydeddu gwaith sydd wedi cael yr effaith fwyaf ar fywydau pobl drwy’r defnydd effeithiol o ddata iechyd, gyda chyfranogiad cryf gan gleifion, gofalwyr a’r cyhoedd drwy gydol y broses ymchwil.
Rhoddodd eu prosiect, sy’n dwyn y teitl “Yr astudiaeth data iechyd poblogaeth gyfan gyntaf yn sicrhau buddiannau enfawr i’r cyhoedd”, fewnwelediadau hanfodol i ddiogelwch brechlynnau COVID-19 ar draws gwahanol grwpiau demograffig. Aeth yr ymchwil i’r afael â phryderon am danfrechu a bu’n gymorth i lywio strategaethau brechu cenedlaethol. Drwy gysoni a chynnull data ar raddfa genedlaethol, llwyddodd y Consortiwm i osod y sylfaen ar gyfer ymchwil lefel boblogaeth ledled y DU yn y dyfodol, ymhell y tu hwnt i COVID-19.
Cafodd graddfa’r prosiect a’i ganlyniadau diriaethol eu canmol gan banel o adolygwyr arbenigol, a nododd:
“Rydym yn cydnabod y cyfraniadau anhygoel mae’r prosiect hwn wedi’u gwneud i wyddor data ac iechyd y cyhoedd. Fe wnaeth dull gwyddoniaeth tîm mawr y prosiect argraff arbennig arnom, gyda data yn cael ei gynnull ar lefel genedlaethol i ddylanwadu’n uniongyrchol ar bolisi brechu COVID-19 a thrafodaeth gyhoeddus. Cafodd y prosiect effaith glir a diriaethol ar filoedd o fywydau.”
Yn ogystal â’u gwobr Effaith, cafodd aelodau o dîm PDS eu henwi’n Dîm y Flwyddyn hefyd, gan ddathlu rhagoriaeth ym maes ymchwil data iechyd gydweithredol, ryngddisgyblaethol.
Cafodd y prosiect buddugol, “Mynd i’r afael â data coll ar ethnigrwydd a thueddiadau mewn ymchwil“, ei arwain gan weithgor Cynghrair Ymchwil Data Iechyd y DU. Lluniodd y grŵp Bapur Gwyn a oedd yn amlinellu camau ymarferol i wella cywirdeb a chysondeb data ethnigrwydd mewn cofnodion iechyd—sy’n hanfodol ar gyfer dileu tueddiadau a sicrhau bod gofal iechyd tecach yn cael ei ddarparu.
Drwy ymgysylltu’n eang ar draws sectorau—gan gynnwys gyda chyfranwyr cyhoeddus, academyddion, gwarcheidwaid data a llunwyr polisi—aeth y tîm ati i hyrwyddo dull amlddisgyblaethol o ymdrin â her data hirsefydlog, wedi’i arwain gan y gymuned. Mae eu gwaith yn llywio penderfyniadau polisi a chlinigol yn y dyfodol drwy sicrhau bod dealltwriaeth gliriach, fwy cynrychioliadol o iechyd y boblogaeth.
Cafodd y dull cyd-greu a ddefnyddiwyd gan y grŵp a’i effaith ar anghydraddoldeb iechyd eu canmol gan y panel beirniaid, a wnaeth eu disgrifio fel:
“Grŵp gwirioneddol amlddisgyblaethol o weithwyr proffesiynol yr oedd cyd-greu yn greiddiol iddyn nhw. Mae eu gwaith yn destament i bŵer ymdrechion cydweithredol a lywir gan y gymuned i fynd i’r afael â materion cymhleth.”
Dywedodd yr Athro Ashley Akbari o Brifysgol Abertawe: “Mae’r ddwy wobr yn adlewyrchu ymroddiad y tîm Gwyddor Data Poblogaeth i ysgogi gwelliannau iechyd yn y byd go iawn drwy ymchwil effeithiol a gwyddoniaeth tîm heb ei hail. Ni fyddai’r gwaith hwn a’r gwobrau wedi bod yn bosibl heb gymorth, cyfranogiad ac ymdrechion llawer o bobl ar draws timau Banc Data SAIL a SeRP, yn ogystal â thimau ehangach ym Mhrifysgol Abertawe, a sicrhaodd fod y gwaith ymchwil effeithiol hwn yn gallu mynd rhagddo.”