Canmol rôl Dilyniannu'r Genhedlaeth Nesaf (Next Generation Sequencing neu NGS) mewn microbioleg ddiagnostig, gan gynnwys ei ddatblygu fel offeryn i berfformio grwpio moleciwlaidd o bathogenau HCAI allweddol

Crynodeb diwedd y prosiect

Rhoddodd y wobr amser ymchwil glinigol hon gyllid i ganiatáu amser penodol i Dr Lim Jones ddatblygu ymchwil i heintiau bacteriol sy'n gwrthsefyll cyffuriau. Mae gan Dr Jones ddiddordeb arbennig mewn diagnosis, triniaeth a rheolaeth heintiau sydd â bacteria sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau.  Mae’n arweinydd clinigol ar gyfer labordy arbenigol sy’n darparu cymorth microbioleg ar gyfer treialon ymchwil clinigol ac yn darparu profion arbenigol ar facteria sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau ar gyfer labordai diagnostig yng Nghymru. Mae'n rhan o brosiect Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu dilyniannu genomau bacteriol cyfan i gefnogi ymchwiliadau i achosion o facteria sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau mewn ysbytai, ac olrhain a deall lledaeniad rhai bacteria allweddol sy'n peri pryder i iechyd y cyhoedd ledled Cymru. Mae hefyd yn ymwneud â chydweithrediadau rhyngwladol sy'n ymchwilio i faich, lledaeniad ac effaith glinigol bacteria sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau mewn Gwledydd Incwm Isel a Chanolig. 

Roedd gan bandemig COVID-19 ganlyniadau pwysig i raglenni a fwriadwyd i reoli heintiau â bacteria sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau a sicrhau defnydd rhesymegol o wrthfiotigau. Yn 2021 arweiniodd Dr Jones gais llwyddiannus am gyllid er mwyn astudio'r effeithiau hyn ar heintiau a'u triniaeth ar unedau gofal dwys yng Nghymru. Mae hefyd yn arwain ar gasglu data o Gaerdydd ar gyfer astudiaeth ryngwladol a fydd yn edrych ar newidiadau mewn canlyniadau ac ymchwilio i heintiau bacteriol ar gyfer cleifion sydd â sepsis a heintiau’r ysgyfaint, sydd a COVID-19 a hebddo.

Mae Dr Jones wedi bod yn rhan o gyhoeddi nifer o erthyglau ymchwil gwreiddiol yn ystod cyfnod y dyfarniad ymchwil hwn.  Mae'r rhain wedi cynnwys adroddiadau ar ymddangosiad achosion pryderus bacteria ymwrthedd gwrthfiotig sy'n achosi heintiau mewn cleifion o Fangladesh, a disgrifiadau o achosion gyda bacteria gwrthiannol yn y wlad honno.  Roedd yn gynghorydd clinigol ar gyfer astudiaeth bwysig, a oedd yn edrych ar faich heintiau sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau mewn babanod newydd-anedig mewn Gwledydd Incwm Isel a Chanolig, ac effaith gwrthsefyll gwrthfiotigau ar yr ymateb i driniaeth. Ar hyn o bryd mae Dr Jones yn gweithio gyda chydweithwyr ar gyhoeddi data sy'n ymwneud â chadw golwg ar facteria sy'n gwrthsefyll cyffuriau yng Nghymru, gan ddefnyddio dilyniannu genomau fel offeryn i ragfynegi’r lefel hynny o wrthsefyll, ac edrych ar faich rhai o'r bacteria sy'n gwrthsefyll cyffuriau mwyaf ledled y DU, a'r effaith y mae'r heintiau hynny yn ei chael ar driniaeth a chanlyniadau cleifion.

Wedi'i gwblhau
Research lead
Dr Lim Jones
Swm
£74,734
Statws
Wedi’i gwblhau
Dyddiad cychwyn
1 Ebrill 2018
Dyddiad cau
29 Medi 2021
Gwobr
NHS Research Time Award
Cyfeirnod y Prosiect
CRTA-17-30