Girl doing her homework

Canolfan Dystiolaeth yn ymchwilio i effaith COVID-19 ar ddisgyblion Cymraeg

11 Awst

 

Canfu ymchwil gan Ganolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, fod rhai plant ysgol yn teimlo bod eu sgiliau Cymraeg "ar seibiant" yn ystod pandemig COVID-19.

Bu'r ymchwil, a  gynhaliwyd mewn partneriaeth â Phrifysgolion Aberystwyth a Bangor, yn  archwilio profiadau dysgwyr mewn addysg Gymraeg a oedd yn hanu o deuluoedd di-Gymraeg, a chanfyddiadau eu rhieni yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus, yn enwedig wrth symud o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd.

Fel rhan o'r astudiaeth, cafodd disgyblion a'u teuluoedd eu cyfweld am eu profiadau o ddysgu gartref yn ystod y pandemig. Dywedodd un disgybl: "Yn fy marn i roedd o (datblygu sgiliau Cymraeg) dipyn ar seibiant... Doedden ni ddim yn defnyddio cymaint â hynny mewn gwirionedd."

Dr Siân Lloyd Williams, Darlithydd Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth, oedd un o'r prif ymchwilwyr.  Dywedodd: "Mae ymchwil flaenorol wedi dangos bod diffyg amlygiad i'r Gymraeg yn ystod y pandemig yn arbennig o broblemus i ddisgyblion oedd yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, ond yn byw mewn cartref lle'r oedd yr iaith gynradd ddim yn Gymraeg.

 

"Casglodd ein hymchwil farn a phrofiadau pandemig disgyblion o'r fath a'u rhieni, er mwyn pennu effaith y diffyg amlygiad i'r Gymraeg a llai o gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith, ar sgiliau Cymraeg y disgyblion." 

Mae canfyddiadau'r ymchwil yn nodi gwerth cryfhau'r cysylltiadau rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd, pwysigrwydd asesu sgiliau Cymraeg disgyblion rhwng cyfnodau allweddol a sicrhau cyfathrebu effeithiol rhwng y cartref a'r ysgol. 

Dywedodd yr Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a sefydlwyd ym mis Ebrill 2023 ac sy'n adeiladu ar lwyddiant Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru: "Rydym yn falch iawn ein bod wedi ymgymryd â'r gwaith hwn gyda  Phrifysgolion Aberystwyth a Bangor, sydd wedi arwain at rai canfyddiadau allweddol mewn perthynas â chyrhaeddiad y Gymraeg ymhlith plant ysgol yn ystod y pandemig. 

"Bydd canfyddiadau'r ymchwil yn amhrisiadwy i Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Addysg Lleol ac  i ysgolion wrth eu helpu  i nodi a darparu'r cymorth sydd ei angen i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, yn enwedig wrth symud ymlaen o addysg gynradd i uwchradd."