Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn lansio canolfan ymchwil newydd gwerth £3m ar gyfer gofal cymdeithasol oedolion
21 Mai
Mae’n bleser gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyhoeddi lansiad canolfan ymchwil newydd sbon gwerth £3m ar gyfer gofal cymdeithasol oedolion ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ddwyn ynghyd arbenigedd o bob rhan o’r sector a chyflenwi ymrwymiad allweddol yn ein cynllun tair blynedd.
Bydd y Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) yn cyfuno arbenigedd o fewn y brifysgol ac yn meithrin cydweithrediad ag arbenigwyr mewn mannau eraill yn y DU, gan ddatblygu ymchwil flaengar ar ofal cymdeithasol oedolion. Er mwyn sicrhau bod y gwaith yn berthnasol i’r sector gofal cymdeithasol, bydd gan CARE grŵp goruchwylio o uwch arweinwyr a llunwyr polisi, a phaneli cynghori o ymarferwyr a phobl sydd â phrofiad personol o dderbyn gwasanaeth gofal cymdeithasol.
Dyfarnwyd y grant i sefydlu CARE i Brifysgol Caerdydd ar sail ei hanes o ymchwil ac effaith yn y maes gofal cymdeithasol. Mae'r Ganolfan ar hyn o bryd yn hysbysebu am Gyfarwyddwr cyntaf, a gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais trwy Brifysgol Caerdydd. Mae'r Brifysgol yn cyfrannu £0.5m pellach o gymorth. Bydd cyllid cyffredinol y Ganolfan yn cefnogi nifer o swyddi newydd.
Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Rydym yn falch o gyhoeddi lansiad y ganolfan CARE newydd, sy’n rhan o’n dyhead i gynyddu capasiti a gallu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae’n helpu’n benodol i fynd i’r afael â bwlch yng nghapasiti ymchwil Cymru mewn maes lle mae angen amlwg, ac mae’n cyflenwi’r camau gweithredu a nodir ar gyfer ymchwil gofal cymdeithasol yn ein cynllun tair blynedd. Mae hefyd yn adeiladu ar waith diweddar a wnaed mewn partneriaeth â Gofal Cymdeithasol Cymru i hybu gweithgarwch ymchwil gofal cymdeithasol.”