Mae Canolfan Dystiolaeth Newydd gyda nod o wella iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
22 Chwefror
Mae Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru newydd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn cael ei sefydlu i ddarparu tystiolaeth ymchwil hanfodol i Weinidogion a llunwyr penderfyniadau eraill i fynd i’r afael â’r heriau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n wynebu Cymru.
Gyda ffocws ar fynd i’r afael ag ystod eang o anghenion iechyd a gofal cymdeithasol, bydd y Ganolfan newydd, a fydd yn agor ym mis Ebrill 2023, yn helpu i sicrhau bod polisïau a gwasanaethau yng Nghymru yn tynnu ar ganfyddiadau’r ymchwil mwyaf diweddar a thrylwyr.
Bydd tîm ymroddedig yn gweithio'n agos gydag arweinwyr yn Llywodraeth Cymru, y GIG a gofal cymdeithasol i sicrhau bod bylchau allweddol yn y dystiolaeth a blaenoriaethau yn cael eu nodi er mwyn gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Rydym yn buddsoddi mwy na £7 miliwn dros y pum mlynedd nesaf yn y Ganolfan newydd, a fydd hefyd yn cynnal ymchwil newydd cyflym i werthuso arloesiadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Dywedodd Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Yr Athro Kieran Walshe, “Bydd y Ganolfan yn ein helpu i ddarparu’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gorau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gleifion a chymunedau. Rydym yn falch o gael y Ganolfan ar gael i ni ac mae’n gwbl hanfodol i ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.”
Dysgu o COVID-19
Mae COVID-19 wedi dangos pa mor hanfodol yw tystiolaeth ymchwil i wneud penderfyniadau ar bob lefel, ac mae angen i benderfyniadau am iechyd a gofal cymdeithasol ehangach hefyd gael eu llywio gan dystiolaeth gadarn.
Mae’r Ganolfan newydd yn adeiladu ar lwyddiant Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, a sefydlwyd ym mis Mawrth 2021 ac sydd wedi bod yn hanfodol i lywio rheolaeth ac adferiad pandemig.
Dywedodd Yr Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Gan adeiladu ar y profiad a’r sgiliau a ddatblygwyd yng Nghanolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, nod y Ganolfan newydd yw gwneud yn siŵr bod polisi ac ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn seiliedig ar y dystiolaeth orau bosibl.
“Mae’n hollbwysig ein bod yn deall y ffyrdd mwyaf effeithiol o wneud pethau, beth sydd orau i’r cyhoedd, cleifion, staff a beth yw’r gwerth gorau am arian. Mae'r dystiolaeth y gall y Ganolfan newydd ei darparu yn hanfodol yn y cyfnod heriol hwn.”
Y cyhoedd yn greiddiol
Mae’r cyhoedd yng Nghymru wrth galon y Ganolfan newydd a bydd yn allweddol i lywio blaenoriaethau ymchwil a gwneud yn siŵr bod ei gwaith yn berthnasol, yn glir ac yn ddefnyddiol.
Dywedodd Debs Smith, Arweinydd Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd yng Nghanolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Mae’n wych gwybod bod lleisiau pobl y mae ymchwil yn effeithio arnynt yn cael eu clywed. Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i arwain gwaith cynnwys y cyhoedd Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac y bydd gennym gydgynhyrchu wrth wraidd popeth a wnawn.”
I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, cofrestrwch ar gyfer bwletin Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.