Arolwg i archwilio profiadau o ddefnyddio monitorau carbon diocsid i wella’r awyru mewn lleoliadau addysg yng Nghymru yn ystod y pandemig COVID-19

Cefndir/ Cyd-destun

Wrth i ddisgyblion ac athrawon ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth ar ôl y cyfnod clo, daeth ansawdd awyr da mewn ystafelloedd dosbarth yn flaenoriaeth. Mae monitro lefelau carbon diocsid yn ffordd dda i ddangos pa mor ‘stêl’ ydy awyr sydd wedi’i ddal mewn ystafell ddosbarth. Mae lefel uchel o garbon diocsid yn rhoi gwybod i ni bod angen gwella’r awyru. Mae gwella’r awyru trwy adael awyr iach i mewn yn gallu helpu i leihau lledaeniad COVID-19.

Anfonwyd 32,000 o fonitorau carbon diocsid (wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru a’u dosbarthu gan Awdurdodau Lleol a sefydliadau allweddol eraill) i ysgolion, colegau a phrifysgolion yng Nghymru i fonitro’r awyru mewn ystafelloedd dosbarth. Nod yr astudiaeth hon oedd deall pa mor ddefnyddiol fu’r monitorau carbon diocsid hyn.

Cynllun yr Astudiaeth

Anfonwyd arolwg i bob ysgol gynradd ac uwchradd, coleg a phrifysgol ledled Cymru i’w holi ynglŷn â’u profiadau o ddefnyddio’r monitorau. Roedd yr arolwg yn eu holi ynglŷn â nifer yr ystafelloedd dosbarth â darlleniadau isel, cymedrol neu uchel, unrhyw gamau a gymerwyd i wella’r awyru a defnyddioldeb y monitorau yn gyffredinol.

Darganfyddiadau

Dychwelwyd cyfanswm o 265 o arolygon wedi’u cwblhau. Roedd gan 56.6% o’r ystafelloedd dosbarth a gafodd eu monitro ddarlleniadau carbon diocsid isel ac roedd gan 5.6% o’r ystafelloedd dosbarth ddarlleniadau uchel.

Dywedodd mwyafrif y rheini a ymatebodd i’r arolwg fod y monitorau’n ddefnyddiol, yn enwedig i godi ymwybyddiaeth o broblemau â’r awyru. Roedden nhw hefyd yn rhoi hyder bod yr ystafelloedd dosbarth wedi’u hawyru’n dda.  Y cam mwyaf cyffredin roedd staff yr ystafell ddosbarth yn ei gymryd i wella'r awyru oedd agor drysau a ffenestri. Cafodd rhai y monitorau’n dipyn o her i’w defnyddio gan eu bod nhw’n eich rhybuddio bod yna broblem ond weithiau doedd yna ddim rhyw lawer o gamau y gellid eu cymryd i wella’r awyru.

Goblygiadau

Roedd llawer o ysgolion a cholegau wedi cael profiad da o ddefnyddio’r monitorau carbon diocsid. Mae angen mwy o gefnogaeth ar ysgolion neu golegau sy’n cael problemau ag awyru ystafelloedd dosbarth oddi wrth eu timau eiddo ynglŷn â beth y gallan nhw ei wneud i wella’r awyru.

Bydd y canlyniadau o’r astudiaeth hon yn darparu sail ar gyfer newidiadau yn y dyfodol i ganllawiau ar awyru mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion.

Darllen yr adroddiad llawn

Awdur cryno: Erin Wynands and Elizabeth Doe

Dyddiad:
Cyfeirnod:
PR009