Dr Sue Channon

Sue Channon

Cyfarwyddwr Uwch a Gymrawd Ymchwil

Ar hyn o bryd mae Sue yn cyfuno’u gwaith yng Ngwasanaeth Dylunio a Chynnal Ymchwil De Ddwyrain Cymru â rolau Prif Ymchwilydd a Chyd-ymchwilydd ar astudiaethau ymchwil yng Nghanolfan Treialon Ymchwil, Prifysgol Caerdydd. Mae gan Sue gefndir clinigol fel Seicolegydd Clinigol GIG mewn Pediatreg gan arbenigo ym maes datblygiad plant, effaith cyflyrau hirdymor ar les seicolegol ac ymyriadau seicolegol ar lefel teulu. Mae ei phrif feysydd ymchwil wedi bod ym meysydd newid ymddygiad iechyd ac iechyd atgynhyrchiol, yn arbennig gordewdra a beichiogrwydd. Mae gan Sue diddordeb mewn datblygu dealltwriaeth systemig o brosesau sy’n ymwneud â darparu ymyriadau, sut mae cyd-destun yn effeithio ar ganlyniadau mewn astudiaethau ymchwil, ac mae ganddi brofiad o arwain gwerthusiadau prosesau mewn treialon rheoledig mawr ar hap ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol.


Yn y newyddion:

Treialon Cymru - free webinars (Mai 2023)

Sefydliad

Gwasanaeth Dylunio a Chynnal Ymchwil De Ddwyrain Cymru

Cysylltwch â Sue

E-bost 

Ffôn: 02920 875047