Claf cyntaf o Gymru yn elwa o dreial clinigol therapi pelydr proton
22 Tachwedd
Claf o Ganolfan Ganser Felindre yw'r claf cyntaf o Gymru i gymryd rhan mewn treial clinigol sy'n ymchwilio i therapi pelydr proton ar gyfer tiwmor ar yr ymennydd.
Dan arweiniad ymchwilwyr ym Mhrifysgol Leeds, mae treial APPROACH yn ymchwilio i therapi pelydr proton ar gyfer pobl sydd â thiwmor ar yr ymennydd o'r enw oligodendroglioma. Bydd y treial yn edrych ar y gwahaniaeth mewn sgil-effeithiau rhwng therapi pelydr proton a radiotherapi safonol.
Mae cleifion sydd â'r math hwn o diwmor ar yr ymennydd fel arfer yn cael llawdriniaeth i gael gwared ar gymaint o'r tiwmor â phosibl. Y cam nesaf yn aml yw radiotherapi, ac yna cemotherapi.
Dywedodd Bethan Thomas, a gymerodd ran yn y treial: "Roedd bod yn rhan o'r treial yn golygu hyd yn oed petawn i'n cael fy newis ar hap i dderbyn radiotherapi, byddwn yn cael fy monitro'n agos gydag ymweliadau rheolaidd gyda'r ymgynghorydd a sganiau rheolaidd am bum mlynedd.
"Nid yw therapi pelydr proton ar gael yn eang i bawb, ac yn sicr nid yw ar gael yng Nghymru felly roedd cael y potensial i gymryd rhan yn y treial a chael y driniaeth orau, roedd yn ddewis mor hawdd i fi!"
Gall radiotherapi ymennydd safonol ar gyfer oligodendroglioma achosi sgil-effeithiau tymor hir a all ddatblygu flynyddoedd ar ôl triniaeth. Gall y rhain gynnwys problemau cof ac anhawster prosesu gwybodaeth, a gall y ddau ohonynt effeithio ar ansawdd bywyd y claf.
Mae therapi pelydr proton yn fath datblygedig o radiotherapi sy'n defnyddio pelydryn o ronynnau proton wedi'i wefru'n uchel i dargedu'r tiwmor ac yn darparu dosau llai o radiotherapi i'r ymennydd iach.
Yn y treial, mae cleifion yn cael eu rhannu ar hap i ddau grŵp - un grŵp sy'n derbyn radiotherapi a chemotherapi safonol, a'r grŵp arall yn derbyn therapi pelydr proton a chemotherapi. Bydd ymchwilwyr yn cymharu'r ddau grŵp, gan asesu sgil-effeithiau, ansawdd bywyd a chyfraddau goroesi.
Dywedodd Dr James Powell, cyd-ymchwilydd ar dreial APPROACH: "Byddwn yn mesur a yw therapi pelydr proton yn lleihau sgil-effeithiau ac yn gwella ansawdd bywyd cleifion. Er mwyn asesu sgil-effeithiau tymor hir, byddwn yn monitro pob claf am bum mlynedd ar ôl eu triniaeth.
"Mae hwn yn opsiwn triniaeth newydd cyffrous i gleifion ar y treial clinigol ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at ddatblygiadau mewn gofal i bobl sydd â'r math penodol hwn o diwmor ar yr ymennydd."
Ariennir APPROACH gan bartneriaeth y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) a'r Cyngor Ymchwil Meddygol.
Darllenwch fwy am y treial ac am Brofiad Bethan.