Cyfarwyddwr Gwyddonol

Richard Clarkson

Cyfarwyddwr Gwyddonol

Richard Clarkson yw Cyfarwyddwr Gwyddonol Banc Canser Cymru ac Uwch Ddarlithydd mewn ymchwil canser yn Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei labordy wedi’i leoli yn y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, lle mae’n Ddirprwy Gyfarwyddwr. Cafodd Richard ei Ddoethuriaeth gan Gyfadran Meddygaeth, Prifysgol Manceinion a bu’n cynnal ymchwil ym Mhrifysgolion Queensland a Chaeredin cyn dechrau ar gymrodoriaeth ymchwil ym Mhrifysgol Caergrawnt yn astudio bioleg marwolaeth celloedd yn y chwarren laeth. Yn 2005 symudodd i Gaerdydd fel Cymrawd Ymchwil Ymchwil y Galon y DU lle dechreuodd ei labordy ei hun yn canolbwyntio ar rai o’r genynnau roedd wedi’u nodi yng Nghaergrawnt a chymwyso’r wybodaeth hon i nodi strategaethau therapiwtig newydd i ddileu neu newid celloedd tiwmor y fron sy’n gyfrifol am ledaenu canser. Lledaeniad tiwmorau gwyllt o amgylch y corff, sef metastasis, yw prif achos marwolaeth ymhlith cleifion â thiwmorau solet. Mae ei grŵp wedi adnabod dau enyn â rolau gwahanol wrth ledaenu tiwmorau trwy’r corff. Mae un yn effeithio ar hyfywedd a chynnal a chadw bôn-gelloedd canser mewn tiwmorau tra bod y llall yn amharu ar allu celloedd tiwmor i symud trwy feinweoedd. Mae ei astudiaethau parhaus wedi’u hanelu at nodweddu’r mecanweithiau hyn yn fwy manwl, gan nodi atalyddion ffarmacolegol y prosesau hyn mewn tiwmorau sylfaenol a gafwyd gan clinigau canser lleol.

Sefydliad

Banc Canser Cymru

Cysylltwch â Richard

E-bost

Ffôn: 02920870249