Cleifion arennau risg uchel Cymru yn rhan o astudiaeth COVID newydd
5 Medi
Mae cleifion arennau ledled Cymru, gan gynnwys y rhai â thrawsblaniadau aren, yn cymryd rhan mewn treial clinigol cenedlaethol i ymchwilio i effeithiolrwydd chwistrell trwynol i atal COVID-19.
Mae'r treial PROTECT-V eisoes wedi cofrestru mwy na 300 o gleifion sy'n agored i niwed yn glinigol â chlefydau datblygedig yn yr arennau ledled y DU. Bydd y treial yn profi a yw niclosamide, a ddefnyddir i drin haint llyngyr, yn atal COVID-19 mewn cleifion sy'n agored i niwed. Bydd y cyffur, sydd wedi'i ail-lunio i mewn i chwistrell trwynol, yn cael ei ddefnyddio ddwywaith y dydd.
Yn y treial, bydd gan gyfranogwyr siawns 1 mewn 2 o dderbyn y cyffur neu'r plasebo. Byddant yn cael eu monitro ar gyfer datblygu COVID-19, a bydd y gwahaniaeth rhwng y ddau grŵp yn cael ei asesu.
Disgwylir i'r treial PROTECT-V bara 15 mis ac mae'n cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Caergrawnt. Fe’i ariennir gan LifeArc, Kidney Research UK, Ymddiriedolaeth Elusennol Addenbrooke a therapiwteg UNION ac fe’i cefnogir gan Ganolfan Ymchwil Biofeddygol Caergrawnt NIHR. Y therapiwteg UNION sy'n cyflenwi'r driniaeth. Ar hyn o bryd mae'n agored i recriwtio mewn 24 o safleoedd ledled y DU, gan gynnwys ysbytai ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yng Nghymru
Dywedodd Neffrolegydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac Arweinydd Arbenigol ar gyfer Anhwylderau Arennau yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Dr Siân Griffin: “Mae cleifion sy'n cael eu trin â gwrthimiwnedd, derbynwyr trawsblaniad a'r rhai ar ddialysis yn unigryw o agored i COVID-19, a gallant aros felly, er gwaethaf brechu.
“Mae angen i’r mwyafrif o gleifion dialysis ddod i gael triniaeth dair gwaith yr wythnos - sy’n ei gwneud hi’n anodd iawn iddyn nhw warchod. Bydd brechiadau atgyfnerthu yn bwysig iawn a disgwylir iddynt roi amddiffyniad ychwanegol, ond mae angen brys am driniaethau newydd i atal haint.
“Gobeithio y bydd y treial hwn yn dangos y ffordd ymlaen. Rydyn ni newydd ddechrau recriwtio cyfranogwyr a byddwn yn parhau am yr ychydig fisoedd nesaf. Os hoffai unrhyw gleifion gymryd rhan, siaradwch â'ch Ymgynghorydd Arennau.”
Dywedodd Dr Abdulfattah Alejmi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydyn ni mor falch o fod yn rhan o'r treial hwn yn edrych ar driniaethau ychwanegol ar gyfer cleifion dialysis a thrawsblaniad arennol, yn ogystal â'r rhai sy'n cymryd meddyginiaethau atal imiwnedd, gan fod ganddyn nhw risg uwch o fynd yn ddifrifol wael o'r feirws.
“Edrychaf ymlaen at weld mwy o'n cleifion yn ymuno â'r treial hwn, gan fy mod yn credu bod unrhyw amddiffyniad posibl yn erbyn y feirws hwn yn gorbwyso'r risg bosibl o COVID-19.”
Un o'r cyfranogwyr yn y treial PROTECT-V yw'r cyn-nyrs o Fargam, Helen Williams, a gafodd drawsblaniad yn 2012 ar ôl i'w gŵr roi ei aren fel rhan o'r cynllun rhoddion cyfun.
Mae'r ddynes 55 oed, a oedd wedi bod yn gwarchod ers dechrau'r pandemig, yn hynod fregus gan fod ei thrawsblaniad a'i meddyginiaeth wedi arwain at system imiwnedd sydd wedi'i hatal yn fawr.
Mae Helen yn siarad am ei rhan yn yr astudiaeth; dywedodd: “Mae'r pandemig wedi bod yn arbennig o galed i'm teulu. Mae fy ngŵr yn anesthetydd ymgynghorol a oedd yn gweithio yn yr uned ICU yn Ysbyty Tywysoges Cymru, a bu’n rhaid iddo symud allan i fy amddiffyn i a fy merch sydd hefyd yn dioddef o’r un clefyd genetig polycystig yr arennau.
“Rwy’n falch iawn o gael cynnig cyfle i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon. Mae'n rhywbeth y gallaf ei wneud i'r cannoedd o filoedd o bobl sy'n dal i warchod, ac nad ydyn nhw wedi gallu dychwelyd i unrhyw fath o normalrwydd.
“Rydw i mor falch o fod yn gyfranogwr, mae'r ymchwil hwn mor bwysig a gobeithio y byddaf yn ychwanegu haen arall o ddiogelwch, gan ein bod wirioneddol angen hyn.
“Mae mor syml, rwy’n cymryd y chwistrell trwynol ddwywaith y dydd ac yna’n siarad gyda’r tîm yng Nghaerdydd unwaith yr wythnos i wirio unrhyw symptomau. Rwy'n teimlo'n ddiogel iawn gan nad yw'r cyffur hwn yn newydd. Nid yw'r chwistrell yn effeithio ar y feddyginiaeth rydw i arni eisoes a gobeithio y byddwn ni'n gallu gweld y canlyniadau'n eithaf buan.
“Pe na bai gennym astudiaethau fel yr un yma, byddwn yn gorfod aros yn gaeth i'm hystafell fyw am y dyfodol rhagweladwy - felly rwy'n hapus i chwarae fy rhan mewn unrhyw ffordd y gallaf.”
Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflenwi yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Os bydd yn llwyddiannus, gallai'r chwistrell drwynol fod ar gael i'r rheini â chlefydau arennau a hunanimiwn o fewn misoedd.
“Mae Cymru wedi chwarae rhan enfawr yn ymateb ymchwil COVID-19 i helpu i leihau trosglwyddiad a difrifoldeb y feirws hwn, ac rydym yn falch o gael sawl safle ar gael eto fel y gall Cymry chwarae eu rhan.”