Nyrs sy'n tueddu i gael claf gwrywaidd.

Cleifion o Gymru i gael mwy o gyfleoedd i fanteisio ar dreialon clinigol arloesol ar gyfer triniaethau canser

16 Gorffennaf

Bydd cwmni biotechnoleg byd-eang sydd y tu ôl i’r brechlyn COVID-19 seiliedig ar mRNA cyntaf yn y byd i gael ei gymeradwyo, yn rhoi cefnogaeth i gryfhau’r seilwaith treialon clinigol yng Nghymru gyda’r nod o roi mwy o gyfleoedd i gleifion canser fanteisio ar dreialon clinigol ar gyfer brechlynnau canser ymchwiliadol.

Nod y cydweithredu rhwng Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy’n cefnogi ymchwil a gyflawnir ledled Cymru, a BioNTech, yw gwella effeithlonrwydd a darpariaeth treialon clinigol yng Nghymru, a chydgysylltu cyfres o dreialon a fydd yn caniatáu i fwy o gleifion fanteisio ar astudiaethau ar gyfer triniaethau canser ymchwiliadol.

Bydd clinigwyr canser a thimau cyflawni ymchwil yn y GIG yng Nghymru yn darparu’r treialon clinigol fel rhan o gydweithredu UK BioNTech. Yng Nghymru, gall unrhyw glaf a nodir gan ei glinigydd lleol fel rhywun a allai fod yn gymwys ar gyfer y treial gael ei atgyfeirio i’r ysbyty lle mae’r treial yn cael ei gynnal, boed yng Nghymru neu mewn man arall yn y DU.

Fel rhan o’r ymdrechion gyda’r nod o ehangu cyfleoedd i fanteisio ar dreialon clinigol, mae BioNTech eisoes yn noddi treial i werthuso brechlyn canser ymgeisiol wedi’i bersonoli ar gyfer cleifion canser y colon a’r rhefr yng Nghanolfan Ganser Felindre, Caerdydd, ac mae astudiaeth ar wahân ar ganser y pen a’r gwddf wedi agor hefyd yn ddiweddar.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Mae hwn yn gyfnod newydd cyffrous ar gyfer ymchwil i ganser a’r posibiliadau y gallai brechlynnau arbrofol newydd eu cynnig i bobl yng Nghymru. Rwy’n falch iawn bod BioNTech, gyda’i record ym maes datblygu imiwnotherapi, yn gweithio gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru fel partneriaid gyda’r potensial i drawsnewid bywydau.”

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflawni yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

“Mae BioNTech yn adnabyddus am ymchwilio i driniaethau arloesol ar gyfer rhai o’r clefydau mwyaf difrifol sy’n peryglu bywyd yn y byd fel canser, COVID-19, malaria a thwbercwlosis.

“Trwy ymrwymiad ein clinigwyr a’n timau cyflawni gwych ledled GIG Cymru, rydyn ni’n credu y bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau y bydd yn haws i ni allu sefydlu a chyflwyno’r treialon BioNTech sy’n agor yn y DU a, thrwy ein dull Cymru’n Un, rhoi mwy o ddewis i gleifion yng Nghymru gymryd rhan.”  

Ychwanegodd yr Athro Rob Jones, Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre:

Mae gan y gwaith cydweithredol hwn y posibilrwydd o newid bywydau yng Nghymru, drwy roi mwy o gyfleoedd i gleifion gymryd rhan mewn treialon brechlyn canser newydd a all fod o fantais i’w canlyniad. Mae’r dull gweithredu y mae BioNTech yn ei ddefnyddio yn golygu y byddwn yn gallu symleiddio’r ffordd yr ydym yn recriwtio i’r treialon hyn, gan eu gwneud yn fwy effeithlon.”