Arweinydd Clinigol y Ffrwd Waith Ymchwil ac Arloesi

Rydym yn cynnig cyfle i Arweinydd Clinigol Datblygu Ymchwil ac Arloesedd ymuno â’r Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Canser, sy’n rhan o Weithrediaeth GIG Cymru (ac a gynhelir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru). Mae'r Rhwydwaith hon yn dod â gweithwyr proffesiynol meddygol, clinigol a phrosiect ynghyd mewn tîm cefnogol a deinamig. Gwybodaeth glinigol, profiad cleifion, ymchwil a thechnolegau newydd mewn gofal canser sy'n llywio ein rhaglenni gwaith.

Rydym ni’n chwilio am Arweinydd Clinigol sy'n gwerthfawrogi bod ymchwil canser yn allweddol i wella canlyniadau ac yn cyfrannu at System Gofal Iechyd sy'n dysgu’n barhaus. Bydd y rôl hon yn gofyn am un sesiwn glinigol yr wythnos, gyda’r potensial ar gyfer cyfleoedd cenedlaethol ychwanegol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus, eisioes yn gweithio ar lefel ymgynghorydd, yn darparu cyfeiriad strategol ac arbenigedd ar gyfer y Rhaglen Ymchwil ac Arloesedd yn ogystal ag i amrywiol grwpiau safleoedd canser ac i grwpiau clinigol eraill o fewn y Rhwydwaith Canser.

Bydd cyfrifoldebau allweddol y rôl yn cynnwys gweithredu fel cynghorydd proffesiynol, arwain prosiectau i loywi canllawiau cenedlaethol, gwella mynediad at dreialon clinigol canser a meithrio cydweithio ledled Cymru, gan gynnwys gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Fforwm y Diwydiant a Grŵp Strategaeth Ymchwil Canser. Bydd sgiliau cyfathrebu, dylanwadu a  rhyngbersonol cryf yn hanfodol i lwyddo yn y gwaith hwn.

Mae hon yn rôl genedlaethol gyffrous ar lefel uwch a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gefnogi/ei chefnogi.

Contract type: tymor penodol tan 31 Mawrth 2025
Hours: Rhan-amser - 1 sesiwn yr wythnos
Salary: £99,532 - £131,964 pro-rata y flwyddyn
Lleoliad: Gwaelod- y- Garth, Cardiff
Job reference:
028-MD028-0824
Closing date: