Man and two women in research clinic

Cofrestr newydd Ymarferwyr Ymchwil Glinigol wedi'i lansio

21 Gorffennaf

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi croesawu lansio cynllun achredu proffesiynol newydd ar gyfer Ymarferwyr Ymchwil Clinigol ledled y DU.


Mae'r gofrestr achrededig, a lansiwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol ar Ymchwil Iechyd (NIHR),yn rhan o gynllun yn y DU i ddyblu nifer yr Ymarferwyr Ymchwil Clinigol i 2,000 dros y blynyddoedd nesaf.

Mae YYC (CRP) yn deitl ymbarél a ddefnyddir ar gyfer teulu o rolau wrth ddarparu ymchwil sydd ag elfen sy'n wynebu cleifion a lle nad yw deiliad y swydd wedi'i gofrestru i broffesiwn gofal iechyd ar hyn o bryd. 

Bydd cyflwyno'r gofrestr yn gwella hunaniaeth broffesiynol, yn cydnabod y rôl hanfodol y mae YYC yn ei chwarae wrth ddarparu ymchwil, ac yn darparu llwybr clir ar gyfer datblygu gyrfa YYC. 

Dywedodd Jayne Goodwin,  Pennaeth Cenedlaethol Cyflenwi Ymchwil yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

"Mae Ymarferwyr Ymchwil Clinigol yn rhan arbenigol a sylfaenol o'n gweithlu ymchwil yng Nghymru. Mae ein timau wedi ymrwymo i ddatblygu'r rolau a'r unigolion hyn dros nifer o flynyddoedd.

"Mae YYC yn dod â chyfoeth o wybodaeth a sgiliau ymchwil i ddarparu ymchwil  glinigol ddiogel, moesegol ac o ansawdd uchel. Mae'r gydnabyddiaeth o'u cyfraniad proffesiynol drwy'r gofrestr hon  i'w chroesawu'n fawr. "

Cyflwynir y cynllun achredu  mewn partneriaeth â Rhaglen Cofrestru Achrededig yr Academi Gwyddor Gofal Iechyd ac fe'i  cydnabyddir gan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol.

Mae'r safonau a bennwyd yn debyg i'r  rhai a geir mewn rheoleiddio statudol ar gyfer nyrsio a phroffesiynau perthynol i iechyd eraill.

Mae cais llwyddiannus i'r gofrestr achrededig yn dangos bod ymarferwyr yn bodloni set ddiffiniedig o safonau ac yn gweithio o fewn cwmpas ymarfer y cytunwyd arno.

I gael gwybod mwy am y gofrestr a sut i wneud cais, ewch i wefan Cofrestr y Cynllun Lleihau Risg.