rhannwch eich ‘Straeon Gaeaf’

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: rhannwch eich ‘Straeon Gaeaf’

Wrth i ni nesáu at yr hyn a fydd yn aeaf anarferol iawn ac o bosib yn anodd i bob un ohonom, rwyf am wneud yn siŵr bod lleisiau a phrofiadau pobl hŷn yn cael eu clywed, a bod modd eu defnyddio i sicrhau newid a gwelliannau.

Rydw i’n chwilio am bobl hŷn i weithio gyda mi dros y misoedd nesaf a rhannu eu straeon personol am sut beth yw eu bywydau yn ystod y gaeaf - am y cynlluniau a’r camau mae pobl hŷn yn eu rhoi ar waith i’w helpu i ymdopi â’r misoedd nesaf, beth sy’n dda neu beth sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, ac am y pethau a allai fod yn gwneud bywyd yn anoddach. 

Bydd hyn yn fy helpu i mewn dwy ffordd bwysig:

  • Fy helpu i ddeall yr anawsterau a’r heriau mae pobl hŷn yn eu hwynebu mewn ‘amser real’ er mwyn i mi allu adnabod materion penodol yn gyflym a sicrhau bod camau’n cael eu cymryd.
  • Darparu sylfaen dystiolaeth rymus sy’n dangos lle mae angen gwelliannau, er mwyn i mi allu dylanwadu ar gynlluniau a phenderfyniadau Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus allweddol eraill yng Nghymru.

Rwy’n gobeithio’n fawr y byddwch chi’n awyddus i gymryd rhan a rhannu eich stori gaeaf i gefnogi’r gwaith pwysig hwn. 

Diolch yn fawr. 

Heléna Herklots CBE
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Os oes gennych chi ddiddordeb ac am wybod mwy am sut gallwch chi gymryd rhan, cysylltwch â A.A.Murray@swansea.ac.uk neu 07507238596.