Beth yw effaith galwadau oherwydd COVID Hir ar gostau’r GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol?

At ddibenion cynllunio adnoddau yn y dyfodol yn y GIG a gofal cymdeithasol, mae angen deall goblygiadau COVID hir o ran costau. Sefyllfa yw COVID hir lle bo arwyddion a symptomau parhaus COVID-19 mewn oedolion a phlant yn parhau am fwy na phedair wythnos ar ôl haint COVID-19 acíwt.

Gwnaeth yr adolygiad hwn ddangos mai prin oedd y dystiolaeth a ddaeth i law o effaith COVID hir ar gostau’r GIG:

  • Mae yna fodelau sy’n dangos bod blynyddoedd bywyd a addaswyd yn ôl ansawdd (QALYs) yn cael eu colli o fewn 1 mlynedd o haint COVID-19, yn bennaf o ganlyniad i symptomau COVID ac, i raddau llai, o ganlyniad i anaf parhaol ac, o fewn 10 mlynedd, rhagamcenir y bydd hyn bron yn gyfartal o ganlyniad i symptomau COVID ac anaf parhaol.
  • Mae’n bosibl bod COVID hir yn effeithio’n ariannol ar bobl oherwydd eu bod yn colli incwm, yn colli arian trwy beidio â gallu cwblhau gweithgareddau ac yn gweld cynnydd mewn treuliau ar iechyd.
  • Mae galw cleifion am wasanaethau iechyd COVID hir yn amrywio, a fydd yn effeithio ymhellach ar y ffordd o ddarparu gofal ac ar gost-effeithiolrwydd y gofal hwnnw.

Daeth yr adolygiad hwn i’r casgliad na ddaeth unrhyw dystiolaeth i law o effaith ar gostau gwasanaethau gofal cymdeithasol. 

Mae angen ymchwil yn y dyfodol i effeithiau galwadau oherwydd COVID hir ar gostau’r GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol gan fod yna ddiffyg tystiolaeth ar hyn o bryd.  Dylai’r ymchwil hon ganolbwyntio ar fodelu economaidd a gwerthuso costau a buddion gwasanaethau i gleifion â COVID hir.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Awdur cryno: Alexandra Strong

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RES00034