COVID-19: canllawiau ar brosiectau ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol at ddibenion addysgol
22 Mawrth
Yn ystod y pandemig COVID-19, mae’r Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA) a’r gweinyddiaethau datganoledig yn blaenoriaethu gwaith adolygu astudiaethau sy’n gysylltiedig â COVID-19. Mae yna gryn bwysau ar y GIG/HSC hefyd, gan gyfyngu ar eu gallu i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil sydd heb gysylltiad â COVID-19.
Rydyn ni felly wedi penderfynu rhoi’r gorau i adolygu ceisiadau ar gyfer prosiectau myfyrwyr israddedig a meistr unigol o hyn ymlaen, nes clywir yn wahanol.
Gwelwch y canllawiau newydd hyn sy’n ymwneud â phrosiectau ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol y mae myfyrwyr israddedig a meistr yn eu cynnal.