Beth ydy effaith y pandemig COVID-19 a’r cyfyngiadau ar gymunedau LHDTC+ yn y DU a pha gamau gweithredu allai helpu i fynd i’r afael â hyn?

Mae adroddiadau personol yn awgrymu bod y cymunedau LHDTC+ yng Nghymru wedi cael profiadau mwy negyddol o ganlyniad i COVID-19 na’r boblogaeth ehangach. Mae’n hanfodol deall yr effeithiau hyn er mwyn nodi a blaenoriaethu camau gweithredu i leihau effaith gyfredol y pandemig COVID-19 a’i effaith yn y dyfodol (a phandemigau posibl yn y dyfodol) ar gymunedau LHDTC+ sy’n byw yng Nghymru.

Buom felly’n edrych am dystiolaeth i ddangos effeithiau’r pandemig COVID-19 a’r cyfyngiadau ar gymunedau LHDTC+ yn y DU ym meysydd addysg, gwaith, safonau byw, iechyd, cyfiawnder a chyfranogiad.

Prin oedd y dystiolaeth a oedd ar gael ac roedd y rhan fwyaf o’r dystiolaeth a ddaeth i law wedi dod o astudiaethau ac adroddiadau sefydliadau eirioli ac nid o ymchwil wyddonol gyhoeddedig. Nid oedd bob amser yn bosibl gweld sut roedd pobl wedi’u recriwtio i’r astudiaethau a wnaed na pha mor gynrychioliadol oedd safbwyntiau a phrofiadau’r rheini a gymerodd ran.

Roedd y dystiolaeth a ddaeth i law yn ymwneud yn bennaf ag iechyd ac roedd wedi’i chyfyngu i effaith gynnar y pandemig. Ni nodwyd unrhyw astudiaethau a oedd wedi casglu data yn fwy diweddar na mis Ebrill 2021. Ni ddaethom o hyd i unrhyw arwydd o’r effeithiau cyfredol neu dymor hir. Ar y cyfan, roedd y dystiolaeth yn dangos deilliannau gwael, neu ddeilliannau gwaeth i’r poblogaethau LHDTC+ o’u cymharu â phoblogaethau tebyg cyn y pandemig, neu o’u cymharu â’r boblogaeth gyffredinol ar draws meysydd llesiant ac iechyd meddwl, ymddygiadau iechyd, diogelwch, unigrwydd a’r gallu i gael gafael mewn gofal iechyd cyffredinol.

Mae gan y sefydliadau a gynhyrchodd llawer o’r astudiaethau fewnwelediad i’r trafferthion y mae cymunedau LHDTC+ yn eu hwynebu. Roedd llawer o’u cyhoeddiadau’n darparu argymhellion ar gyfer llunwyr polisi ac ymarferwyr. Daeth yr argymhellion hyn yn sgil nodi naill ai’r pethau roedd y pandemig wedi’u gwaethygu neu’r pethau a oedd o ganlyniad uniongyrchol i’r pandemig ac mae angen eu hystyried wrth baratoi ar gyfer unrhyw argyfwng yn y dyfodol.

Er gwaethaf diffyg mabwysiadu prosesau ffurfiol clir, cytunwyd y byddai’n ddefnyddiol adolygu’r argymhellion hyn oddi wrth randdeiliaid ac unrhyw werthusiadau o ymyriadau i liniaru effaith y pandemig er mwyn darparu sail ar gyfer y Cynllun Gweithredu LHDTC+ i Gymru. Yna gallai grŵp ehangach o randdeiliaid ystyried y rhain.

Roedd y ffaith nad oedd yna unrhyw astudiaethau a oedd wedi’u hariannu i ymchwilio i effaith y pandemig ar boblogaethau LHDTC+, a bod yna ddiffyg data a gesglir fel mater o drefn ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd ar adeg cyhoeddi, wedi cyfyngu ar ein chwiliad. Mae astudiaethau’n dwyn sylw at yr angen am strategaethau ymateb i argyfwng sy’n cwmpasu anghenion LHDTC+ ac sy’n cydnabod amrywiaeth o fewn cymunedau lleiafrifol.

Mae angen cyllid ymchwil i ddeall mwy am sut i fynd i’r afael â deilliannau gwael i gymunedau LHDTC+, yn y cyd-destun cyfredol a hefyd o ran bod yn barod am argyfyngau yn y dyfodol, ac i werthuso effeithiolrwydd ymyriadau i gefnogi cymunedau LHDTC+.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Dyddiad:
Cyfeirnod:
REM00029