Creu a chyflwyno posteri
Amlinelliad o’r Cwrs:
Mae gennon ni i gyd ymrwymiad ac agwedd broffesiynol tuag at ein gwaith ac mae yna adegau pan rydyn ni’n falch o rannu ein gwybodaeth, ein hymchwil, ein prosiectau, ein gwaith a’n syniadau.
Unwaith rydych chi wedi cwblhau’r cwrs hwn, fe ddylech chi allu cynllunio cynnwys a dyluniad eich poster a chyfleu eich neges yn llwyddiannus i ganiatáu i eraill gael budd o’ch gwybodaeth a’ch gwaith.
Hyd y Cwrs
e-ddysgu 1 awr
Manylion y cwrs
Fe fydd y cwrs hwn yn disgrifio:
- Sut i gael y panel beirniadu i sylwi ar eich crynodeb poster chi
- Sut orau i amlinellu a hybu’ch gwaith trwy greu poster y mae pobl yn stopio i’w ddarllen
Ar ôl yr hyfforddiant, bydd y cyfranogwyr:
- Yn deall beth y mae panel beirniadu’n ei ddisgwyl o grynodebau/ posteri a gyflwynir
- Sut i greu poster ac awgrymiadau ynglŷn â dyluniad
- Sut i ragori ar bawb arall