Crynodeb o Ymchwil Sy’n Mynd Rhagddi a Darpar Ymchwil i COVID Hir yng Nghymru Adroddiad

Crynodeb o ymchwil gynlluniedig neu gyfredol i COVID Hir

Mae’r adroddiad hwn yn darparu crynodeb o ymchwil i COVID hir yng Nghymru, fel oedd yn bodoli ym mis Tachwedd 2021. Mae’n bosibl y bydd yna gyfleoedd i bobl â COVID hir neu weithwyr iechyd proffesiynol gymryd rhan yn yr ymchwil hon.

COVID hir yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio symptomau pobl wythnosau neu fisoedd ar ôl cael COVID. Mae’r symptomau hyn yn cynnwys bod yn fyr o wynt yn barhaus, blinder, poenau yn y cyhyrau ac amhariad ar yr hwyliau ac maent yn gallu cael effaith fawr ar gleifion.

Fis Hydref 2021, yr amcangyfrif oedd bod gan 1.2 miliwn o bobl dal symptomau bedair wythnos ar ôl cael COVID. Dywedodd fwy na hanner y rhain fod y symptomau hyn yn effeithio ar eu bywydau o ddydd i ddydd.

Mae’r ddealltwriaeth o’r cyflwr dal y wael ac mae angen rhagor o ymchwil.

Defnyddir y term COVID hir i ddisgrifio amrywiaeth eang o gyflyrau. Y gred yw bod y pethau sy’n eu hachosi’n niferus ac yn ansicr. Nid oes unrhyw brawf ar gyfer COVID hir ac nid oes triniaeth y gellir dangos yn glir ei bod wedi gweithio.

Mae COVID hir yn effeithio ar yr unigolyn a hefyd ar y gymdeithas ehangach gan ei fod yn golygu nad yw rhai pobl yn gallu gweithio ac felly mae busnesau’n colli cynhyrchiant. Gan fod y symptomau’n amrywio, mae angen gwahanol archwiliadau a thriniaethau ar gyfer cleifion.

Mae angen rhagor o ymchwil fel bod modd darparu gwasanaethau lleol yn ôl yr angen, ac fel bod modd rhoi triniaethau seiliedig ar dystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio. Bydd deall yn well y pethau sy’n achosi COVID hir hefyd yn helpu i osgoi cymhlethdodau’r salwch.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwybod mwy neu wybod a allwch chi gymryd rhan, ewch i wefan yr astudiaeth neu gofynnwch i’ch meddyg teulu i gael gwybod beth yw’r sefyllfa ar hyn o bryd.

Mae rhagor o wybodaeth a chefnogaeth i ddarpar gyfranogwyr, gweithwyr proffesiynol ac ymchwilwyr i’w cael trwy Wasanaeth Cefnogi a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Dyddiad:
Cyfeirnod:
R00017