Cwestiynau cyffredin ynglŷn â hyfforddiant

When will face to face training restart?

Yn sgil canllawiau llywodraeth y DU mewn ymateb i bandemig COVID-19, ni fyddwn ni’n cynnal hyfforddiant wyneb yn wyneb unrhyw le yng Nghymru hyd nes y cawn ni wybod yn wahanol.

Fodd bynnag, mae cyrsiau e-ddysgu ar gael a gallwch chi gwblhau’r hyfforddiant yn eich amser eich hun.

Pa gyrsiau e-ddysgu y galla’ i gymryd rhan ynddyn nhw?

Mae sesiynau Cyflwyniad i Ymarfer Clinigol Da a Chwrs Diweddaru Ymarfer Clinigol Da ar gael fel cyrsiau e-ddysgu. Maen nhw’n gyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus achrededig ac mae modd lawrlwytho tystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs.

I’r rheini mewn rolau astudio cysylltiedig, fel fferylliaeth–rhoi cyffuriau ar bresgripsiwn, mae gennym ni hefyd sleidiau cyflwyno Hanfodion Ymarfer Clinigol Da.

Rydyn ni wrthi’n gweithio ar ymestyn y llyfrgell e-ddysgu sydd ar gael gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Beth ydy Ymarfer Clinigol Da (GCP)?

Mae Ymarfer Clinigol Da, neu GCP, yn safon ansawdd moesegol a gwyddonol ryngwladol ar gyfer cynnal treialon clinigol. Mae cydymffurfio â’r safon hon yn rhoi sicrwydd i’r cyhoedd bod hawliau, diogelwch a llesiant y bobl sy’n cymryd rhan yn yr ymchwil yn cael eu gwarchod, a bod data’r treial clinigol yn gredadwy.

Mae gofyn i lawer o staff ymchwil gwblhau hyfforddiant GCP a dangos tystiolaeth o hyn â thystysgrif GCP ddilys. Dydy hyn dim ond yn ofyniad cyfreithiol i staff sy’n gweithio ar dreialon clinigol sy’n ymchwilio i gynhyrchion meddyginiaethol (CTIMP).

Mae fy nhystysgrif Ymarfer Clinigol Da (GCP) wedi dod i ben, neu mi fydd hi’n dod i ben cyn bo hir; beth ddylwn i ei wneud?

Nid ydy deddfwriaeth ymchwil y DU yn pennu ffrâm amser benodol ar gyfer ailadrodd hyfforddiant GCP nac ar gyfer tystysgrifau sy’n dod i ben.

Wrth ystyried pryd y dylai’r rheini sy’n gweithio ar dreialon clinigol sy’n ymchwilio i gynhyrchion meddyginiaethol (CTIMP) ailadrodd hyfforddiant GCP, safbwynt yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA)/ yr Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA) ydy bod yn rhaid i hyn fod yn briodol ac yn gymesur.

Yn aml, mae gan adrannau Ymchwil a Datblygu (Y&D) a noddwyr eu gofynion lleol eu hunain ar gyfer diweddaru hyfforddiant GCP. Siaradwch â nhw ynglŷn â’u gofynion a rhowch wybod iddyn nhw am Gyd-ddatganiad y DU a Threfniadau Gweithredu Safonol Cymru-gyfan (SOP) lle bo’n berthnasol.

Os oes angen ichi ddiweddaru’ch tystysgrif GCP, mae yna gyrsiau e-ddysgu ar gael ar gyfer y Cyflwyniad i Ymarfer Clinigol Da ac ar gyfer Cwrs Diweddaru Ymarfer Clinigol Da.

Rydyn ni’n gwneud ein holl hyfforddiant GCP ar y cyd â Rhwydwaith Ymchwil Glinigol y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) ac mae’n cael lle amlwg gan ei fod wedi’i restru ar wefan TransCelerate, sy’n gydnabyddiaeth fyd-eang o ansawdd hyfforddiant GCP.

Rydw i’n gweithio mewn labordy/fferylliaeth ac mae gen i rôl fach mewn astudiaeth ymchwil. Oes yn rhaid i mi gwblhau hyfforddiant Ymarfer Clinigol Da (GCP) llawn?

Os mai rôl fach yr ydych chi’n ei chwarae mewn astudiaeth ymchwil mewn labordy neu fferylliaeth, mae’n bosibl nad oes yn rhaid ichi gwblhau hyfforddiant GCP llawn. Mae ein sleidiau cyflwyno Hanfodion Ymarfer Clinigol Da yn darparu hyfforddiant amgen.

Gofynnwch i’ch noddwr a’ch adran Ymchwil a Datblygu (Y&D) pa lefel o hyfforddiant y mae gofyn ichi ei ddilyn a chyfeirio at Gyd-ddatganiad y DU a Threfniadau Gweithredu Safonol Cymru-gyfan i gael canllawiau pellach.

Mae gennon ni staff ar astudiaeth sydd ddim yn edrych ar gyffuriau; oes angen iddyn nhw i gyd wneud hyfforddiant Ymarfer Clinigol Da (GCP) llawn?

Nid ydy hi’n gyfreithiol ofynnol i staff ar astudiaethau sydd ddim yn edrych ar gyffuriau gwblhau GCP. Fodd bynnag, mae’n rhaid i staff ar yr astudiaethau hyn fod wedi’u hyfforddi’n briodol a bod â phrofiad priodol i wneud eu rôl.

Mae’n rhaid iddyn nhw allu cynnal yr astudiaeth mewn modd sy’n rhoi sicrwydd i’r cyhoedd bod hawliau, diogelwch a llesiant y rheini sy’n cymryd rhan mewn ymchwil yn cael eu gwarchod a bod data ymchwil yn ddibynadwy. Cyfeiriwch at eich noddwr a’ch adran Ymchwil a Datblygu (Y&D) i gael gwybod am eu gofynion hyfforddi lleol.

Mae gennon ni staff sy’n gweithio mewn amgylchedd ymchwil ond dydyn ni ddim mewn gwirionedd yn cyflenwi unrhyw weithgareddau ymchwil. Oes angen iddyn nhw wneud hyfforddiant Ymarfer Clinigol Da (GCP)?

Nac oes, os nad ydy staff mewn gwirionedd yn gwneud unrhyw weithgaredd ymchwil nid oes yn rhaid iddyn nhw ddilyn hyfforddiant GCP llawn. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod staff yn deall yn iawn beth sy’n digwydd o’u hamgylch. Mae Trefniadau Gweithredu Safonol Cymru-gyfan yn dweud bod modd cyflawni hyn trwy drafodaeth neu hyfforddiant mewnol. Rydyn ni wedi datblygu ffeithlen Ymwybyddiaeth o Ymchwil y gellir ei defnyddio i helpu yn hyn o beth.

Os y bydda’ i’n dechrau cwrs e-ddysgu Ymarfer Clinigol Da, oes yn rhaid i mi ei gwblhau mewn un sesiwn?

Nac oes, mae’r sesiynau wedi’u strwythuro fel y gallwch chi fynd a dod cyn eu cwblhau. Pan fyddwch chi’n gadael y dudalen e-ddysgu, bydd eich sesiwn yn ailgychwyn o’r fan honno y tro nesaf.