Cwrdd â gwirfoddolwyr brechu COVID-19
Pan wnaeth pandemig COVID-19 gyfyngu ar ein bywydau yn 2020, roedd pwysau ar ymchwilwyr i ddod o hyd i frechlynnau effeithiol. Sefydlodd yr NIHR a'r GIG Cofrestra ymchwil brechu COVID-19 y GIG i alw ar wirfoddolwyr i’w helpu i ddarganfod pa frechlynnau posibl sy’n gweithio orau – a gwnaeth cannoedd o filoedd gofrestru.
Gwnaethom ni siarad â dau o'r gwirfoddolwyr brechu hyn i ddysgu sut a pham y gwnaethon nhw gymryd rhan - ac i gael gwybod pa gyngor sydd ganddyn nhw ar gyfer darpar gyfranogwyr ymchwil eraill.
Beth sy'n ysgogi gwirfoddolwyr ymchwil?
Nid yw Brian a Michael erioed wedi cwrdd. Maen nhw’n byw ben arall y wlad o’i gilydd, ac mae eu swyddi arferol yn wahanol iawn – Michael yn gweithio i'r NIHR fel Rheolwr Cyfathrebu, yn hyrwyddo cyfleoedd ymchwil, a Brian yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fel Ymarferydd Ymarfer Corff Adsefydlu Cardiaidd. Ond er gwaethaf eu gwahaniaethau, mae gan Brian a Michael un peth anhygoel yn gyffredin; mae'r ddau wedi cymryd rhan mewn ymchwil gofal iechyd hanfodol i frwydro yn erbyn pandemig COVID-19.
Ac er bod y ddau yn gweithio mewn meysydd sy'n gysylltiedig â gofal iechyd, roedd eu rhesymau dros gymryd rhan mewn treialon brechu COVID-19 yn fwy personol na phroffesiynol. “Dyma'r tro cyntaf yn fy mywyd nad wyf wedi teimlo mewn rheolaeth,” meddai Brian, a gymerodd ran yn astudiaeth brechlyn Rhydychen/AstraZeneca. “Roedd popeth yn ansicr. Felly i fi, roedd yn ymwneud â chwarae rhan fach iawn yn y gadwyn honno o gael y brechlyn drwodd i’w gam terfynol, er mwyn dychwelyd i ryw fath o normalrwydd, gobeithio.”
Roedd Michael, a oedd yn rhan o dreial Cam II Valneva, hefyd yn teimlo bod gwneud “tipyn bach” er mwyn gwneud gwahaniaeth enfawr yn benderfyniad hawdd ei wneud. “Doedd dim dwywaith amdani,” meddai Michael. “Mae gwybod fy mod i'n rhan o'r filiwn o bobl sydd wedi cymryd rhan mewn ymchwil COVID ers y llynedd yn fy ngwneud i’n falch iawn.”
Dydy cymryd rhan ddim yn achosi trafferth
Efallai y bydd rhai pobl yn poeni am yr hyn y mae ymchwil iechyd yn ei olygu - ond gwnaeth Michael a Brian weld bod y broses yn gyfleus ac yn cyd-fynd â'u bywydau yn ddidrafferth. “Nid oedd yn drafferthus o gwbl,” meddai Michael, gan gofio trefn ei astudiaeth, a oedd yn cynnwys llenwi holiadur pum munud bob nos am y 10 diwrnod cyntaf ar ôl cael y brechlyn. “Doeddwn i byth yn rhuthro o gwmpas - a dweud y gwir, gan fy mod i’n gweithio gartref roedd yn esgus da i fynd allan o'r tŷ!”
Gwnaeth Brian hefyd ei chael hi'n hawdd addasu ei fywyd i gynnwys gwirfoddoli. “Doedd e’ ddim yn ymrwymiad enfawr,” meddai, am ei astudiaeth 12 mis. “Byddwn i'n mynd i'r ganolfan ymchwil a bydden nhw'n cymryd awr o fy amser efallai, yna ni fyddai'n rhaid i mi fynd yn ôl am chwe wythnos efallai... Mae gen i chwe phrawf wythnosol arall i'w gwneud, ond rwy'n hapus i fynd mor bell ag y mae fy angen i arnyn nhw.”
Mae'r syniad bod yn rhaid i ymchwil iechyd gymryd cryn dipyn o amser - a'i fod yn golygu llawer o deithio a threulio amser mewn ysbytai - yn rhwystr i lawer o ddarpar wirfoddolwyr. Ond fel y gwnaeth Brian a Michael ddarganfod, nid oes rhaid i hyn fod yn wir bob tro. Mae llawer o wahanol fathau o ymchwil iechyd, ac os ydych chi'n fodlon cymryd rhan mewn treial brechu fel y rhain, neu dim ond amser i ateb arolwg sydd gennych, mae ffordd i bron bawb gymryd rhan.
Gofal a chymorth i wirfoddolwyr ymchwil
Ni ofynnir i wirfoddolwyr ym maes ymchwil byth wneud rhywbeth nad ydyn nhw’n gyfforddus ag ef. Yn wir, mae Brian yn dweud bod ei deulu wedi bod yn fwy nerfus amdano’n cymryd rhan yn y treial nag yr oedd ef ei hun. “Mae llawer iawn o gamddealltwriaeth ynghylch ymchwil,” mae'n dweud. “Ond o gymryd rhan roeddwn i'n teimlo y gallwn i esbonio y ffeithiau i fy nheulu, yn hytrach na'r camddealltwriaeth a'r mythau.”
Gwnaeth Michael hefyd ddarganfod bod cyfrannu at ymchwil wedi’i helpu i dawelu meddyliau ei anwyliaid, diolch i'r manylion trylwyr yr oedd y tîm ymchwil wedi’u hesbonio i sicrhau ei fod yn gwybod yr hyn yr oedd yr ymchwil yn ei olygu. “Roedd fy mhartner a fy rhieni yn poeni, yn enwedig am unrhyw sgil effeithiau posibl. Ond fe wnes i ddangos y taflenni gwybodaeth iddyn nhw - maen nhw’n esbonio popeth o ran nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth, yr hyn sydd yn y brechlyn, yr holl ymweliadau y byddech chi’n eu cael, yr hyn sydd yn y pecyn y byddech chi’n ei gael... roedd yn fanwl iawn.”
Nid yw lefel y gofal a'r cymorth a gafodd Michael yn anarferol mewn treial ymchwil iechyd. Mae sicrhau bod gwirfoddolwyr yn cael yr wybodaeth lawn cyn cymryd rhan yn fater allweddol i dimau ymchwil, ac mae'n rhaid i astudiaethau basio archwiliadau moesegol a rheoliadol llym cyn y gallan nhw fynd yn eu blaen. Gwnaeth Brian hefyd sôn am yr ymrwymiad hwn i ba mor gyfforddus yr oedd cyfranogwyr yn teimlo, ac mae e’n cofio cael ateb i'w holl gwestiynau yn ystod ei apwyntiad cyntaf un. “Roedd yn teimlo fel amgylchedd diogel iawn i fod ynddo, ” meddai. “Doeddwn i ddim wir yn teimlo'n nerfus - roeddwn i'n teimlo'n chwilfrydig, efallai, ac yn obeithiol y byddai fy nghyfraniad bach yn gwneud gwahaniaeth.”
Bod yn rhan o etifeddiaeth barhaol
Ers cymryd rhan yn y treial Rhydychen/AstraZeneca, mae teulu Brian wedi cael eu hargyhoeddi’n llwyr gan fanteision gwirfoddoli ar gyfer ymchwil iechyd. “Mae fy mam yn meddwl fy mod i'n arwr,” meddai. “Mae fy nheulu i gyd yn falch iawn - maen nhw'n meddwl fy mod i draw yma yng Nghymru yn achub y byd!” Mae Michael yn rhannu’r brwdfrydedd hwn, ac mae’n falch o fod yn rhan o “etifeddiaeth barhaol” gwirfoddoli a gwneud pethau'n well ar gyfer y dyfodol.
Felly pa gyngor sydd gan y gwirfoddolwyr hyn i unrhyw un arall sy'n ystyried rhoi eu hamser i ymchwil iechyd? “Dysgwch gymaint ag y gallwch cyn i chi ddechrau,” meddai Brian. “Mae’r daflen wybodaeth i gleifion yn fanwl iawn ac yn hawdd ei deall, felly darllenwch hi'n drylwyr i weld yr hyn mae'n ei olygu. Roeddwn i'n gwybod yn union beth i'w ddisgwyl a beth roeddwn i'n mynd i'w wneud – roedd y cyfan yn glir iawn.”
“Mynnwch yr wybodaeth gywir er mwyn i chi allu gwneud dewis gwybodus,” meddai Michael. “Nid oes neb yn eich gorfodi chi i gymryd rhan – ond os ydych chi'n darllen ac yn gweld y manteision, fe welwch chi nad oes gwaith caled ynddo mewn gwirionedd – rydych chi yno i helpu.” Mae profiad Michael hefyd wedi cyfoethogi ei waith, gan y gall nawr roi ei hun yn esgidiau'r gwirfoddolwyr y mae e’n helpu i'w recriwtio a deall yn well yr ymchwilwyr y mae'n eu cefnogi. “Nawr fy mod i wedi cyflawni’r swyddogaeth honno, gallaf i uniaethu â'r ymdrechion sydd eu hangen o bob ochr.”
“Mae wedi bod yn brofiad hynod o gadarnhaol,” ychwanega Brian, sydd wedi parhau â'i waith gwirfoddoli ac sydd nawr yn rhoi brechlynnau ar benwythnosau. “Bydd yn braf dychwelyd i gam lle nad oes rhaid i ni feddwl amdano ragor, lle gallwn ni gyfarch pobl a rhoi cwtsh iddyn nhw, a gwneud yr holl bethau rydym ni i fod i'w gwneud fel bodau dynol.”
Gydag ymchwil COVID-19 yn parhau, mae llawer o wahanol gyfleoedd i gymryd rhan. Dysgwch fwy am ymchwil brechu, cofrestrwch gyda Cofrestrfa ymchwil brechu COVID-19 y GIG neu darllenwch y cwestiynau cyffredin ynghylch cymryd rhan mewn astudiaethau brechlyn.
Gallech chi fod yn rhan o'r datblygiad anhygoel nesaf
Mae'r blog hwn wedi'i ail-gynhyrchu o wefan Be Part of Research. Gall Be Part of Research eich helpu chi i ddarganfod mwy ynghylch ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ledled y DU.