sgrin gyfrifiadur yn dangos graffiau

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru mewn cydbartneriaeth ariannu gwerth £70 miliwn i weddnewid potensial data iechyd y DU

11 Mai

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn un o naw partner ariannu o bob cwr o’r DU i ddarparu cyfanswm o fwy na £70 miliwn mewn cyllid grant i Health Data Research UK (HDR UK), i gefnogi eu gwaith o gyflymu mynediad dibynadwy at ddata iechyd a gwella triniaethau, darparu gofal iechyd gwell ac achub bywydau.

Mae’r DU mewn sefyllfa unigryw i wireddu potensial data iechyd, diolch i’r GIG a’i gofnodion o’r crud i’r bedd ar gyfer poblogaeth o fwy na 65 miliwn o bobl. Fodd bynnag, mae mynediad diogel at y data hyn i ymchwilwyr yn aml yn broses hirfaith a thameidiog, sy’n golygu nad yw’r potensial ar gyfer gwella gofal iechyd yn cael ei wireddu yn llawn.

HDR UK yw sefydliad cenedlaethol ar gyfer gwyddor data iechyd. Mae’n gweithio gyda’r GIG a phartneriaid mewn prifysgolion, elusennau, diwydiant a rheoleiddwyr i ddod â data iechyd y DU ynghyd i wneud darganfyddiadau sy’n gwella bywydau pobl.

Bydd yn helpu i fynd i’r afael â rhai o’r argyfyngau iechyd byd-eang mwyaf, gan gynnwys canser, diabetes a chlefyd cardiofasgwlaidd, a gallai gyflymu ac ail-lunio dulliau ymchwil.

Meddai’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: 

Rydym ni’n gynhyrfus i barhau i fod yn rhan o’r bartneriaeth ariannu ar gyfer Health Data Research UK. Mae ymchwil a ysgogir gan ddata yn rhan hollbwysig o’r seilwaith ymchwil yng Nghymru ac mae’n wych bod yn rhan o’r gwaith pwysig hwn.”

Y Cyngor Ymchwil Feddygol, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd, Sefydliad Prydeinig y GalonCancer Research UK, y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, Swyddfa Prif Wyddonydd Cyfarwyddiaethau Iechyd Llywodraeth yr AlbanYmchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac Ymchwil a Datblygiad Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon yw’r naw partner ariannu.

Meddai cyfarwyddwr HDR UK, yr Athro Andrew Morris: “Mae potensial trawsnewidiol ymchwil data iechyd ymhellach iawn o gael ei wireddu yn llawn. Dim ond cyfran fach o ddata’r GIG, biomeddygol a pherthnasol i iechyd sydd ar gael ar gyfer ymchwil. Mae ein gwaith ymhell o fod yn gyflawn os ydym yn mynd i fod o fudd i gleifion a gwella bywydau – mae’r dyfarniad cyllid arwyddocaol hwn yn newid sylweddol i sicrhau ein bod yn cyflawni’r genhadaeth hon.”

Bydd y bum mlynedd nesaf o gyllid yn golygu bod HDR UK yn dilyn cynllun i gynyddu cyflymder, maint ac ansawdd gwyddor data iechyd a galluogi darganfyddiadau newydd drwy hynny.

  • Bydd rhaglenni ymchwil cydweithredol ledled y DU gyfan yn ysgogi’r defnydd o’r setiau data mawr mewn gwahanol feysydd: o ganser a chlefyd y galon i glefyd anadlol, o’r defnydd o feddyginiaethau i ystyried effeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol ar iechyd.
  • Bydd y darnio a’r diffyg safoni presennol yn y data yn cael sylw trwy weithio gyda llawer o wahanol sefydliadau, gan adeiladu galluoedd a chefnogi gwyddoniaeth tîm gwirioneddol.
  • Bydd cleifion a’r cyhoedd yn parhau i gymryd rhan trwy waith y Sefydliad – gan sicrhau bod mynediad at ddata ar gyfer ymchwil yn cael ei alluogi gan systemau dibynadwy a diogel ac yn cynhyrchu budd i’r cyhoedd.

Mae’r gwaith hwn yn adeiladu ar lwyddiannau pum mlynedd gyntaf y sefydliad, yn enwedig yn ystod pandemig COVID- 19 pan wnaeth cysylltu a dadansoddi data iechyd yn gyflym yn y pedair gwlad ddatganoledig hysbysu ymatebion llywodraethau ar sawl cam, gan gynnwys y Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) yng Nghymru, lle ceir data dienw cyflawn iawn.

Am ragor o fanylion ar y bartneriaeth ariannu hon, ewch i wefan HDR UK.