Cydnabod Cyd-Gyfarwyddwr SAIL yng ngwobrau Diwydiant Dylanwad Data.
22 Chwefror
Cafodd yr Athro David Ford, Cyd-Gyfarwyddwr banc data CDGDd (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw) sef SAIL (Secure Anonymised Information Linkage) – a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – ei gydnabod fel un o’r bobl mwyaf dylanwadol o safbwynt data.
Cafodd ei enwi yn argraffiad 2021 o DataIQ 100 sef y rhestr cyntaf, ac unig restr, o ffigurau allweddol y diwydiant data.
Mae David yn Athro Gwybodeg Iechyd ac mae’n arwainydd Gwyddoniaeth Data Poblogaeth yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Abertawe. Yn ystod y 25 mlynedd diwethaf mae wedi bod yn datblygu ffyrdd newydd o wella’r modd y cesglir data gan y gwasanaeth gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Mae Banc Data SAIL yn cynwys miloedd o gofnodion yn seiliedig ar bobl ac mae’n ffynhonell data poblogaeth gyfoethog a dibynadwy. Mae’n gwella bywydau trwy ddarparu gwybodaeth ar gyfer ymchwilwyr y gellir ei gyrchu a’i ddadansoddi mewn unrhyw fan yn y byd – data diogel, cysylltiol a dienw.
Yn ogystal â’i waith gyda SAIL, mae David hefyd yn Gyd-Gyfarwyddwr Ymchwil Data Gweinyddol (ADR) Cymru ac ADRC gynt, buddsoddiad cyfun gwerth £14.3miliwn gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol fel rhan o’i fenter data enfawr.
Dyma eiriau David: “Mae’n ardderchog cael fy nghynnwys yn y rhestr DataIQ 100, yn enwedig ar ôl yr hyn sydd wedi bod yn flwyddyn brysur a heriol. Bu i mi gyd sefydlu Banc Data SAIL yn 2005 gyda fy nghydweithiwr Ronan Lyons er mwyn edrych ar ffyrdd o sicrhau bod data iechyd ar gael i’w ddefnyddio mewn ymchwil ac wrth lunio polisïau. Rwyf yn eithriadol falch o’r hyn ydym wedi ei gyflawni gyda’n gilydd ac o’r tïm anhygoel yr ydym wedi ei adeiladu dros gyfnod o dros 15 mlynedd”.
A dyma a ddywedodd David Reed, Cyfarwyddwr Gwybodaeth a Strategaeth gyda DataIQ:
“Roedd nifer yr enwebiadau (dros 1,000) i’w hadolygu eleni yn record. Yr hyn ddaeth yn amlwg yw bod data erbyn hyn yn arf hanfodol i bob math o sefydliadau, yn enwedig wrth ymwneud â marchnad-darfu. Mae ein llwyddiant yn 2021 yn adlewyrchu graddfa a chyflymder y newid hwn a’r unigolion sydd yn ymateb iddo.”