Cydsyniad Deallus
Amlinelliad o’r Cwrs:
Mae’r broses o sicrhau caniatâd ar sail penderfyniad cytbwys yn elfen allweddol i Ymarfer Clinigol Da mewn Ymchwil. Anelwyd y cwrs hanner diwrnod hwn at staff ymchwil yn y GIG a lleoliadau gofal cymdeithasol sy’n cymryd rhan mewn recriwtio pobl i astudiaethau ymchwil.
Mae’r pynciau a drafodir yn ystod y cwrs yn cynnwys ymwybyddiaeth o’r gyfraith a chydsynio, y broses gydsynio, y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol a phroblemau moesegol o ran cydsyniad. Disgwylir i fynychwyr gymryd rhan mewn gwaith grŵp yn ymchwilio i mewn i faterion cyfreithiol a moesol â chydsyniad ar sail gwybodaeth, o fewn senarios ymchwil.
Sylwch os gwelwch yn dda fod tystysgrifau presenoldeb yn cael eu rhoi dim ond os byddwch yn cwblhau pob elfen ar yr hyfforddiant. Cadarnheir yr amseroedd pan ddaw’r ffurflen gofrestru i law.
Hyd y Cwrs:
Hanner diwrnod
Manylion y cwrs
Ar ôl yr hyfforddiant, bydd y cyfranogwyr:
- archwilio canfyddiadau’r cleifion a’r cyhoedd a heriau caniatâd ar sail penderfyniad cytbwys
- disgrifio’r fframwaith cyfreithiol ynghylch sicrhau caniatâd ar sail penderfyniad cytbwys mewn ymchwil, gan gynnwys oedolion a phlant analluog
- ymchwilio i mewn i’r defnydd ymarferol o egwyddorion moesol yn y gwaith dyddiol o gynnal ymchwil â chydsyniad ar sail gwybodaeth
- cysylltu prosesau caniatâd ar sail penderfyniad cytbwys o ansawdd gyda’r canllawiau Ymarfer Clinigol Da
Ardystiad CPD
Mae'r hyfforddiant yma wedi ei ardystio gan y Gwasanaeth Ardystio CPD.
CPD 4 Awr
Sesiwn rithwir / Virtual session (rhagfyr/December 2024)
Sesiwn rithwir / Virtual session (Ionawr/January 2025)
Face to face: ILS1 Swansea University, Swansea (Chwefror/February 2025)
Sesiwn rithwir / Virtual session (Mawrth/March 2025)
Mae pob cwrs yn cael ei redeg dros ddau ddiwrnod, rhaid i chi fynychu'r ddwy sesiwn.