Traciwr ffitrwydd

Cydweithrediad Ewropeaidd gwerth £16 miliwn â nod o wella ansawdd bywyd pobl â chlefydau niwroddirywiol

Mae ymchwilwyr yn y Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn archwilio sut y gellir defnyddio technolegau digidol, fel tracwyr ffitrwydd gwisgadwy, i gefnogi pobl â chlefyd Huntington.

Fel rhan o gydweithrediad gwerth £16 miliwn i fynd i’r afael ag iechyd a gofal cymdeithasol pobl â chlefydau’r ymennydd, fe fydd yr Athro Monica Busse, cyfarwyddwr Treialon y Meddwl, yr Ymennydd a Niwrowyddorau yn y Ganolfan Treialon Ymchwil, yn arwain tîm rhyngwladol a fydd yn asesu sut y mae cwsg, maeth a gweithgarwch corfforol yn effeithio ar glefyd Huntington. Bydd tîm ymchwil Targedau Dull o Fyw Aml-barth i Wella Prognosis (The Multi Domain Lifestyle Targets for Improving ProgNOsis - DOMINO HD) hefyd yn ceisio datblygu ffyrdd newydd i helpu pobl i reoli symptomau.

Cyflwr niwrolegol etifeddol ydy clefyd Huntington, sy’n achosi anawsterau symud a chydsymudiad. Mae hefyd yn achosi nam gwybyddol sy’n gwaethygu dros amser. Nid oes unrhyw driniaeth ar gyfer y cyflwr ar hyn o bryd.

Meddai’r Athro Busse: “Mae’r prosiect hwn yn dod yn rhan o’n portffolio cynyddol o ymchwil ym maes clefyd Huntington, gan weithio’n agos â chleifion ac aelodau o’r cyhoedd, ac mae’n gam pwysig sydd â’r potensial o gyfrannu’n sylweddol at ein gwybodaeth a’n triniaeth o glefyd Huntington, a phroblem gynyddol dementia.”

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ynghyd ag Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lloegr, y Gymdeithas Alzheimer ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon, wedi ymrwymo £2.15 miliwn tuag at ddyfarniadau ariannu’r Cydraglen – Clefyd Niwroddirywiol (JPND), sy’n ariannu’r ymchwil newydd hon. Rhaglen JPND ydy’r fenter ymchwil fyd-eang fwyaf sydd â’r nod o fynd i’r afael â heriau clefydau niwroddirywiol.

Bydd y tîm yng Nghymru’n arwain consortiwm ar draws Ewrop sy’n cynnwys Iwerddon, Sbaen, Gwlad Pwyl, yr Almaen a’r Swistir.


Cyhoeddwyd gyntaf: @YmchwilCymru Rhyfin 6, Mehefin 2019