Cydymaith Ymchwil, CASCADE

Mae Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Caerdydd yn ceisio recriwtio Cydymaith Ymchwil i weithio yn y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE), Canolfan Ymchwil sydd wedi'i lleoli yn yr Ysgol

Yn y rôl hon byddwch yn gweithio ar brosiect ymchwil, a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd, yw "Gwerthusiad o gynadledda grŵp teulu ar gyfer plant a theuluoedd: Cyd-destun, gweithrediad ac effeithiolrwydd”

Job Description

Ymchwil

  • Cynnal gwaith ymchwil ym maes gofal cymdeithasol plant a chyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol yr Ysgol a’r Brifysgol drwy gynhyrchu canlyniadau mesuradwy gan gynnwys gwneud ceisiadau am arian, cyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd cenedlaethol, a recriwtio a goruchwylio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. 
  • Datblygu amcanion ymchwil a chynigion ar gyfer ymchwil annibynnol neu ar y cyd, gan gynnwys cynigion am gyllid ymchwil
  • Mynd i gynadleddau/seminarau lleol a chenedlaethol a/neu roi cyflwyniadau ynddynt yn ôl y galw
  • Cyflawni tasgau gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r prosiect ymchwil, gan gynnwys cynllunio a threfnu'r prosiect a gweithredu’r gweithdrefnau gofynnol er mwyn sicrhau adroddiadau cywir a phrydlon
  • Paratoi ceisiadau moeseg ymchwil a llywodraethu ymchwil fel sy’n briodol
  • Adolygu’r llenyddiaeth ymchwil sy’n bodoli yn y maes ar hyn o bryd a’i chyfosod
  • Cymryd rhan yng ngweithgareddau ymchwil yr Ysgol
  • Datblygu a chreu rhwydweithiau’n fewnol ac yn allanol i'r Brifysgol, dylanwadu ar benderfyniadau, ymchwilio i ofynion ymchwil y dyfodol, a rhannu syniadau ar gyfer ymchwil er budd prosiectau ymchwil

Arall

  • Ymgysylltu’n effeithiol â chyrff sector cyhoeddus a gwirfoddol, sefydliadau proffesiynol, sefydliadau academaidd eraill, ac ati, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, i godi ymwybyddiaeth o broffil yr Ysgol, meithrin partneriaethau strategol gwerthfawr, a chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar draws amrywiaeth o weithgareddau. Bydd disgwyl i’r gweithgareddau hyn gyfrannu at yr Ysgol a gwella ei phroffil yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
  • Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn modd priodol a fydd yn gwella perfformiad.
  • Cyfrannu at weinyddiaeth a gweithgareddau'r Ysgol er mwyn hyrwyddo'r Ysgol a'i gwaith ar draws y Brifysgol a thu hwnt
  • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd.

 

Contract type: Contract cyfyngedig
Hours: Llawn-amser (35 awr yr wythnos)
Salary: Gradd 6 £39,347 - £44,263
Lleoliad: Prifysgol Caerdydd
Job reference:
18311BR
Closing date: