Cydymaith Ymchwil - DECIPHer
Mae Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd yn awyddus i recriwtio Cydymaith Ymchwil i weithio yn y Ganolfan Datblygu, Gwerthuso, Cymhlethdod a Gweithredu ym maes Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) a’r canolbwynt arweinyddiaeth a ariennir gan yr ESRC Behavioral Research UK (BR-UK).
Mae BR-UK yn fuddsoddiad ESRC gwerth £10.6m mewn arweinyddiaeth ar gyfer ymchwil ymddygiadol, ar draws 4 thema i) amgylcheddau a chynaliadwyedd; ii) iechyd a lles; iii) cymunedau gwydn a iv) sefydliadau, marchnadoedd a'r economi. Arweinir y canolbwynt gan Brifysgol Caeredin a Choleg Prifysgol Llundain.
Mae Themâu 1 a 2 yn cael eu harwain ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd. Bydd deiliad y swydd yn ymgymryd ag ymchwil o fewn y thema Iechyd a Lles, dan arweiniad yr Athro Graham Moore (Prifysgol Caerdydd) a Dr Laura MacGowan (Prifysgol Queens Belfast). Bydd deiliad y swydd hefyd yn cyfrannu at ddatblygu grantiau ymchwil a gwaith arall canolfan ymchwil DECIPHer.
19939BR