
Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Rydym eisiau cefnogi’r bobl dalentog sy’n gweithio ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a denu a datblygu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr.
Mae Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cael ei lansio yn ystod haf 2022 a bydd yn gymuned ar gyfer deiliaid gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru lle gallant gael mynediad at gymorth a chyfleoedd datblygu i ddatblygu eu gyrfaoedd ymchwil. Bydd y Gyfadran yn hwyluso darparu rhaglen hyfforddi bwrpasol a chyfleoedd mentora ar gyfer ei haelodau a hefyd yn rhedeg gwobrau personol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Cyfarwyddwr y Gyfadran yw Yr Athro Monica Busse, sydd hefyd yn Uwch Arweinydd Ymchwil i sefydliad Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Bydd yr Athro Busse yn darparu cyfeiriad strategol ar gyfer datblygu Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyda chefnogaeth tîm gweinyddol yn y Ganolfan Cymorth a Chyflawni, yn arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu rhaglen eang o waith sydd â’r nod penodol o wella’r llwybr gyrfa ymchwil mewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Beth fydd y Gyfadran yn ei wneud?
Bydd tîm gweinyddol y Gyfadran yn:
- dwyn ynghyd y gwaith o ddatblygu a chydgysylltu hyfforddiant a datblygiad gyrfa ar gyfer pobl sy'n gweithio yn y gymuned iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
- chwarae rhan ganolog mewn denu, hyfforddi a chefnogi'r ymchwilwyr iechyd a gofal gorau fel y gallwn ddatblygu gweithlu ymchwil academaidd tra medrus
- cefnogi gweithrediad yr argymhellion o'r adolygiad o lwybrau gyrfa ymchwil yng Nghymru.
Sut bydd y Gyfadran yn helpu ymchwilwyr?
Sefydlwyd y Gyfadran i sicrhau bod ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn cael yr hyfforddiant a'r cymorth cywir i ddatblygu eu gyrfaoedd.
Fe’i sefydlwyd o ganlyniad i un o’r argymhellion mewn adroddiad diweddar, Gwneud i yrfaoedd ymchwil weithio: adolygiad o lwybrau gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a adolygodd y cyfleoedd hyfforddi a datblygu ymchwil presennol sydd ar gael yng Nghymru.
Amlygodd yr adroddiad y galluogwyr a’r rhwystrau, a nododd argymhellion i wella’r cymorth ac annog mwy o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i gychwyn ar yrfaoedd ymchwil.
Mwy o wybodaeth
Ebostiwch dîm y Gyfadran: Cyfadran-Ymchwil@wales.nhs.uk