Group of people gathered around the table

Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn lansio cynllun Aelodaeth Gyswllt newydd

22 Awst

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch o gyhoeddi lansiad ein cynllun Aelodaeth Gyswllt Cyfadran newydd, gan agor ystod o gyfleoedd cymorth i ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi derbyn cyllid o ffynonellau ehangach.

Bydd y cynllun yn galluogi unigolion sy'n llwyddiannus mewn cynlluniau cymrodoriaeth bersonol ledled y DU, ac ymchwilwyr gyrfa gynnar sy'n derbyn cyllid gan gynlluniau grant prosiect Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru neu gynlluniau cyllido cystadleuol eraill a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i wneud cais am aelodaeth gyswllt o Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Sefydlwyd Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn 2022 i ddarparu cefnogaeth, arweiniad a hyfforddiant i ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol o bob cefndir ac ar draws pob cam gyrfa. Ei nod yw dod ag ymchwilwyr at ei gilydd fel cymuned gydweithredol i gefnogi eu heffaith ymchwil yn well yn ogystal â'u llwybrau gyrfa ymchwil unigol.

Cyn lansio aelodaeth gysylltiol, roedd aelodaeth o'r gyfadran ond yn agored i'r unigolion hynny a oedd wedi derbyn gwobr bersonol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae Rachel McDowell yn ffisiotherapydd yng Nghanolfan Ffibrosis Systig Cymru Gyfan yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ac yn aelod cyswllt o Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae hi wedi ennill  Cymrodoriaeth PhD Ymddiriedolaeth “ drwy raglen Hyfforddiant Academaidd Clinigol GW4, cydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Caerfaddon, Prifysgol Bryste a Phrifysgol Caerwysg.

Meddai Rachel, "Gall pobl â ffibrosis systig grynhoi “mucus” yn eu hysgyfaint a all gyfyngu ar eu gallu i ymarfer corff ac felly eu gweithgareddau o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, mae cadw'n actif yn rhan bwysig o fywyd gyda ffibrosis systig gan ei fod yn wych ar gyfer agor y llwybrau anadlu a chadw'r cyhyrau'n gryf, yn ogystal â'r manteision enfawr o ran lleddfu straen, rhyngweithio cymdeithasol a lles meddyliol.

"Cyflwynwyd triniaeth ffibrosis systig newydd o'r enw Kaftrio yn 2020, sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr   i swyddogaeth ysgyfaint nifer o cleifion, gan eu helpu i anadlu'n haws. Bydd  fy PhD yn edrych ar wella agweddau eraill ar ffibrosis systig sy'n cyfyngu ar ymarfer corff ar hyn o bryd, nid dim ond swyddogaeth yr ysgyfaint, a sut y gallai hynny drosi i ansawdd bywyd cyffredinol cleifion."

Dywedodd Rachel fod y rhwydwaith cymorth a'r canllawiau gyrfa a gynigir gan y gyfadran yn "ysbrydoledig iawn": "Mae rhaglen GW4 yn ymwneud â chydweithio, felly mae'n wych cael mynediad at rwydwaith cymorth a chyfleoedd hyfforddi'r gyfadran fel aelod cyswllt. Mae hefyd yn annog ymchwilwyr i fod yn meddwl am waith yn y dyfodol o gyfnod cynnar, felly o safbwynt gyrfa mae wedi bod yn galonogol i mi weld bod aelodau eraill o'r gyfadran sydd wedi ymgymryd â'r Gymrodoriaeth hon o'r blaen a'r hyn y maent wedi mynd ymlaen i'w wneud. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at siarad yn y digwyddiad cyfadran  ym mis Medi i gynghori ymchwilwyr eraill sy'n awyddus i wneud cais am eu Cymrodoriaeth bersonol eu hunain."

Meddai'r Athro Monica Busse, Cyfarwyddwr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Ar ran ein Cyfadran rwy'n falch iawn o allu ymestyn ein cynllun Aelodaeth Gyswllt i unigolion sy'n gymwys, mewn ymdrech i hyrwyddo mas critigol o ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol rhagorol a gwella cydweithredu ar draws y gymuned ymchwil yng Nghymru."

I gael gwybod mwy am Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ewch i'n gwefan.