Dau ymchwilydd yn siarad â'i gilydd

Cefnogi ein haelodau

Os ydych wedi derbyn gwobr bersonol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, byddwch yn awtomatig yn dod yn Aelod o’r Gyfadran.

Mae bod yn aelod o'r Gyfadran yn rhoi cymorth penodol i chi drwy gydol eich gwobr bersonol. Bydd y rhain yn cynnwys cyfleoedd fel:

  • Cynllun mentora’r Gyfadran
  • Hyfforddiant a datblygiad unigol
  • Rhwydweithio a digwyddiadau

Aelodau’r Gyfadran: 

  • Efrydiaethau PhD Iechyd
  • Efrydiaethau PhD Gofal Cymdeithasol
  • Cymrodoriaethau Ymchwil Iechyd
  • Cymrodoriaethau Ymchwil Gofal Cymdeithasol
  • Uwch Arweinwyr Ymchwil
  • Gwobrau Amser Ymchwil y GIG
  • Cymrodoriaethau NIHR/Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 
  • Enillwyr Cydweithrediad Meithrin Gallu Ymchwil

Alumni ac Aelodaeth Gyswllt

Mae aelodaeth Alumni yn agored i’r rheini sydd wedi cwblhau eu dyfarniad personol yn ddiweddar. 

Bydd deiliaid dyfarniadau personol cyfredol yn symud i statws alumni unwaith y bydd eu dyfarniad personol wedi'i gwblhau.

Mae aelodaeth alumni yn galluogi aelodau'r alumni i barhau i fanteisio ar lawer o'r cyfleoedd hyfforddi a datblygu y mae'r Gyfadran yn eu cynnig.

Rydyn ni’n estyn y cynllun aelodaeth fel bod unigolion sy’n llwyddiannus mewn cynlluniau cymrodoriaeth bersonol DU-eang, ac ymchwilwyr sy’n derbyn cyllid o gynlluniau grantiau prosiectau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru neu gynlluniau cyllid cystadleuol y mae Llywodraeth Cymru’n eu cefnogi, yn gallu ymgeisio am Aelodaeth Gyswllt.

Bydd hyn yn rhoi i chi lawer o’r un cyfleoedd â’r aelodau pryd bynnag fo hynny’n bosibl, ond yn fwy pwysig bydd yn helpu i ddatblygu rhwydwaith o gymheiriaid sydd ar wahanol gamau o ddatblygu gyrfa ymchwil.

Os hoffech wneud cais am Aelodaeth Gyswllt llenwch y ffurflen fer ar-lein.

Mae aelodau cyswllt yn gallu manteisio ar y buddion canlynol gan y Gyfadran:

  • Cynhadledd flynyddol a diwrnod Dysgu a Datblygu 
  • Cyfres hyfforddiant datblygu ymchwil
  • Cyfleoedd datblygu ar gyfer aelodau'r panel ymchwil ac adolygwyr cymheiriaid