logos

Cyfleoedd Cyllido Ymchwil 2020/2021: Cymrodoriaethau Ôl-Ddoethurol

13 Hydref

*Mae'r alwad ariannu hon bellach ar gau i geisiadau*

Mae’n bleser gan RCBC (Cydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil) Cymru gyhoeddi bod cyllid ar gael ar gyfer Cymrodoriaethau Ôl-ddoethurol mewn nyrsio/bydwreigiaeth, Fferylliaeth a Phroffesiynau Iechyd Perthynol i gychwyn ym mis Ebrill 2021. Gwahoddir ceisiadau gan bobl broffesiynol cofrestredig cymwys ar gyfer cymrodoriaethau a gyllidir gan RCBCCymru. Dyfernir cymrodoriaethau i’r Prifysgolion cydweithrediadol (rhestrir y sefydliadau isod). 

Bydd RCBC Cymru yn cyllido Cymrodoriaethau Ôl-ddoethurol hanner amser am ddwy flynedd. Bydd y Gymrodoriaeth yn cynnwys bwrsari a chyfraniadau tuag at gostau ymchwil a mynychu dyddiau astudio Cymuned yr Ysgolorion. 

Dylai pob cais gynnwys ymrwymiad i themâu a blaenoriaethau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r Sefydliad perthnasol o ran cynorthwyo a datblygu ymchwil rhagorol sy’n effeithio’n bositif ar iechyd, llesiant a ffyniant pobl yng Nghymru. Gall y rhain gynnwys astudio unrhyw agwedd o nyrsio, bydwreigiaeth, gofal iechyd perthynol neu fferylliaeth sydd yn ffocysu’n benodol ar: 

  • rolau proffesiynol newydd neu ysu’n dod i’r golwg
  • gofal integredig
  • egwyddorion gofal iechyd darbodus, h.y.:
    • cleifion a phobl broffesiynol yn bartneriaid cydradd drwy gyd-gynhyrchu
    • gofal ar gyfer y rhai gyda’r angen iechyd mwyaf yn gyntaf
    • gwneud yr hyn sydd ei angen a gwneud dim niwed
    • lleihau amrywiaeth amhriodol drwy ddulliau o fynd ati yn seiliedig ar dystiolaeth

Cymhwystra

  • Rhaid bod ymgeiswyr wedi cofrestru yn y DU fel Nyrs, Bydwraig, Fferyllydd neu Weithwyr Proffesiynol Iechyd perthynol (h.y. Rhaid eu bod wedi’u cofrestru gyda’r NMC, HCPC neu’r GPC pan fyddan nhw’n cychwyn yr astudiaeth). Gallai gwyddonwyr biofeddygol a chlinigol fod wedi cofrestru gyda’r HCPC neu wedi’u cofrestru drwy drefniadau rheoliadol gwirfoddol drwy Academi Gwyddorau Gofal Iechyd. Ceir diffiniad o Swyddi Iechyd Perthynol yng Nghofrestr Cyngor Proffesiynau Iechyd ac yn cynnwys tua 15 o broffesiynau iechyd a 33 o deitlau a amddiffynnir. Sylwer nad oes gan RCBC Cymru y capasiti cyllido i ystyried gweithwyr proffesiynol o'r tu allan i’r grwpiau hyn o weithwyr gofal iechyd proffesiynol.
  • Mae angen i ymgeiswyr feddu ar PhD a ddyfarnwyd gan Brifysgol neu sefydliad a gydnabyddir gan y 6 Sefydliad Addysg Uwch sy’n ymwneud â RCBC Cymru, fel arfer o fewn y 5 mlynedd diwethaf.
  • Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus breswylio yng Nghymru drwy gydol cyfnod y dyfarniad.
  • Sylwer nad yw RCBC Cymru yn gorff sy’n cyflogi a rhaid i bob Cymrodor fod mewn cyflogaeth yng Nghymru er mwyn cael Cymrodoriaeth

Rheolir y broses recriwtio ar gyfer y Cymrodoriaethau Ôl-ddoethurol gan Brifysgol De Cymru gyda mewnbwn gan bob Prifysgol cydweithrediadol. Lleolir Cymrodoriaethau o fewn grwpiau ymchwil sefydledig yn yr Ysgolion/Adrannau sy’n rhan o bartneriaeth RCBC Cymru a cheir rhestr isod. Neilltuir o leiaf un mentor at gyfer pob Cymrodor o fewn un o Ysgolion/Adrannau y bartneriaeth.

Bydd y broses o wneud cais yn cynnwys y canlynol:

  1. Cysylltu ag Arweinydd Gweithredol yn eich dewis cyntaf o brifysgol er mwyn trafod eich darpar gais enwi goruchwylydd
  2. Ffurflenni gwirio cymhwystra i’w cwblhau a’u dychwelyd at marina.mcdonald@southwales.ac.uk unrhyw adeg hyd at 13 Tachwedd 2020.  Hysbysir ymgeiswyr o fewn 10 diwrnod gwaith i dderbyn y ffurflenni gwirio a ydyn nhw wedi diwallu’r meini prawf.
  3. Gofynnir i ymgeiswyr cymwys gyflwyno ffurflen gais o’u cynnig llawn erbyn 18 Rhagfyr 2020.
  4. Llunnir rhestr fer o geisiadau cynnig llawn gan Grŵp Gweithredol RCBCCymru. Gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i fynychu cyfweliad a bydd cynigion yn amodol ar adolygiad annibynnol. Caiff ymgeiswyr ar y rhestr fer adborth gan adolygwyr allanol i gynnig ymateb mewn cyfweliad.
  5. Cynhelir y cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn cychwyn 8 Chwefror 2021.
  6. Bydd y Cymrodoriaethau yn cychwyn  1  Ebrill 2021

Mae’r ffurflenni cais perthnasol a chanllawiau pellach (yn cynnwys manylion am gyllido) ar gael ar 
https://www.rcbcwales.org.uk/postdoctoral-funding-opportunities

 Am wybodaeth am gyfleoedd penodol, cysylltwch yn uniongyrchol â’r sefydliadau perthnasol (rhestrir y manylion isod). Ar gyfer ymholiadau cyffredinol cysylltwch â Marina McDonald, RCBC Cymru, Prifysgol De Cymru. E-bost: marina.mcdonald@southwales.ac.uk Ffôn: 01443 483070 

Sefydliadau Cydweithredol a Chysylltiadau: 

Prifysgol De Cymru  
Cyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg  Arweinyddion Gweithredol: Dr Gina Dolan / Athro Joyce Kenkre

Prifysgol Bangor  
Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd  Arweinydd Gweithredol: Dr Lorelei Jones

Prifysgol Metropolitan Caerdydd 
Ysgol Gwyddorau Iechyd Arweinydd Gweithredol: Dr Robert Mayr 

Prifysgol Caerdydd 
Ysgol Astudiaethau Gofal Iechyd Arweinyddion Gweithredol: Athro Danny Kelly / Dr Paul Gill  

Prifysgol Glyndŵr  
Adran Gwyddorau Cymdeithasol ac Addysg Arweinydd Gweithredol: Dr Joanne Pike  

Prifysgol Abertawe 
Ysgol Gwyddorau Iechyd Arweinydd Gweithredol: Athro Jaynie Rance

 


Ariennir RCBC Wales gan Lywodraeth Cymru trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru