Cyfleoedd Secondiad Proffesiynol i ddatblygu cynllun gweithredu ymchwil Nyrsio a Phroffesiynau Perthynol i Iechyd i Gymru

Cyfleoedd Secondiad Proffesiynol i ddatblygu cynllun gweithredu ymchwil Nyrsio a Phroffesiynau Perthynol i Iechyd i Gymru

18 Awst

Rydym yn chwilio am 2 ddeiliad swydd rhan amser (hyd at 3 diwrnod yr un i rannu swydd) i weithio ar y cyd â’r Prif Swyddog Nyrsio, Prif Gynghorydd Proffesiynau Perthynol i Iechyd a Phrif Gynghorydd Ymchwil a Datblygu/Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (yn Llywodraeth Cymru) i wneud gwaith prosiect penodol i ddatblygu cynllun gweithredu ymchwil strategol i Gymru ar gyfer Nyrsio a Phroffesiynau Perthynol i Iechyd (AHP)

Gwahoddir datganiadau o ddiddordeb ar ffurf dogfen 1 dudalen yn amlinellu eich addasrwydd i ymgymryd â’r prosiect hwn, i’w chyflwyno i healthandcareresearch@wales.nhs.uk erbyn 15:00 ar 20 Medi 2023.

Gwahoddiad i Ddatganiadau o Ddiddordeb

Os hoffech drafod y cyfle, e-bostiwch healthandcareresearch@wales.nhs.uk a byddwn yn trefnu trafodaeth.