Cyflwyniad i gynnwys y cyhoedd mewn ymchwil

Rydyn ni’n croesawu pob aelod o’r cyhoedd sy’n cofrestru â’n cymuned cynnwys y cyhoedd. Mae cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i ymchwil a gofal. I wneud hyn yn effeithiol yng Nghymru, rydyn ni’n alinio ein gwaith â Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd

Yr Athro Kieran Walshe
Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Hyd y Cwrs:

1 awr

Manylion y cwrs

Fe fydd y cwrs hwn yn disgrifio:

Ystyr:

  • cynnwys, cyfranogi ac ymgysylltu

Ar ôl yr hyfforddiant, bydd y cyfranogwyr:

  • Yn dysgu’r gwahaniaeth rhwng cynnwys, cyfranogi ac ymgysylltu ag ymchwil
  • Yn gwybod am yr amrywiaeth eang o weithgareddau cynnwys sydd ar gael ichi
  • Yn ymwybodol o bwrpas cynnwys y cyhoedd mewn cyfrannu at ymchwil a’ch rôl chi
  • Yn deall ac yn cyrchu’r gefnogaeth sydd ar gael ichi